Yr Almaen

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Almaen)
yr Almaen
Bundesrepublik Deutschland
ArwyddairUnity and Justice and Freedom Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gwlad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlGermania Edit this on Wikidata
PrifddinasBerlin Edit this on Wikidata
Poblogaeth83,149,300 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Anthemnational anthem of Germany Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethOlaf Scholz Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
NawddsantMihangel Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Almaeneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolArdal Economeg Ewropeaidd Edit this on Wikidata
Arwynebedd357,587.77 km² Edit this on Wikidata
GerllawY Môr Baltig, Môr y Gogledd Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaDenmarc, Gwlad Pwyl, Y Swistir, Ffrainc, Lwcsembwrg, Gwlad Belg, Yr Iseldiroedd, Awstria, tsiecia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51°N 10°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolYr Almaen Ffederal, Cabinet Gweriniaeth Ffederal yr Almaen Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholBundesrat, Bundestag yr Almaen Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd yr Almaen Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethFrank-Walter Steinmeier Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Canghellor Ffederal Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethOlaf Scholz Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$4,259,935 million, $4,072,192 million Edit this on Wikidata
ArianEwro Edit this on Wikidata
Canran y diwaith5 ±1 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.39 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.942 Edit this on Wikidata

Gweriniaeth Ffederal yr Almaen neu'r Almaen (Almaeneg: Bundesrepublik Deutschland "Cymorth – Sain" ynganiad Almaeneg ). Gweriniaeth ffederal yng nghanol Ewrop yw'r Almaen. Mae'n ffinio â Môr y Gogledd, Denmarc, a'r Môr Baltig (Almaeneg: Ostsee, sef Môr y Dwyrain) yn y gogledd, Gweriniaeth Tsiec a Gwlad Pwyl yn y dwyrain, y Swistir ac Awstria yn y de, a Ffrainc, Lwcsembwrg, Gwlad Belg a'r Iseldiroedd yn y gorllewin. Berlin yw'r brifddinas.

Ni chafwyd chwyldro Almaenig ond y mae’r modd yr ymatebodd y tiroedd Almaenig i her chwyldroadol y Chwyldro Ffrengig, gan addasu syniadau 1789, wedi llunio datblygiad gwleidyddol a chymdeithasol yr Almaen hyd at yr 20g.

Hanes[golygu | golygu cod]

Y cofnod cyntaf a geir o hanes yr Almaen yw am nifer o lwythau Almaenig a oedd yn byw yn y diriogaeth sy'n awr yn wladwriaeth yr Almaen. Gorchfygwyd rhai o'r rhain gan y Rhufeiniaid, a daeth y rhannau i'r gorllewin o Afon Rhein yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig. Bu'r Rhufeiniaid yn ymgyrchu tu hwnt i afon Rhein hefyd, ond ni lwyddasant i'w gwneud yn rhan o'r ymerodraeth. Yn 9 OC. gorchfygwyd byddin Rufeinig dan Publius Quinctilius Varus gan gynghrair o lwythau Almaenig dan Arminius ym Mrwydr Fforest Teutoburg. Dinistriwyd tair lleng Rufeinig yn llwyr. Dilynwyd y frwydr gan saith mlynedd o ymladd, cyn i'r ffin gael ei sefydlogi ar hyd afon Rhein.

Sefydlwyd yr Ymerodraeth Lân Rufeinig yn y 9g, a pharhaodd hyd 1806. Yr Almaen oedd cnewyllyn yr ymerodraeth, er ei bod ar adegau yn cynnwys Awstria, Slofenia, Gweriniaeth Tsiec, gorllewin Gwlad Pwyl, yr Iseldiroedd, dwyrain Ffrainc, y Swistir a rhan o ogledd yr Eidal. Collwyd llawer o'r tiriogaethau hyn erbyn canol y 16g, a daeth i'w galw yn "Ymerodraeth Lân Rufeinig y Genedl Almaenig".

Rhwng 1618 a 1648, effeithiwyd yn fawr ar yr Almaen gan frwydrau'r Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain. Dechreuodd y rhyfel fel anghydfod crefyddol rhwng y Protestaniaid a'r Catholigion o fewn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Yn raddol, tynnwyd y rhan fwyaf o wledydd Ewrop i mewn i'r ymladd, llawer ohonynt am resymau nad oedd yn gysylltiedig â chrefydd. Ymladdwyd y rhan fwyaf o'r brwydrau yng nghanolbarth Ewrop, yn enwedig yr Almaen. Gwneid llawer o ddefnydd o fyddinoedd o hurfilwyr, ac anrheithiwyd tiriogaethau eang ganddynt. Credir i boblogaeth y gwladwriaethau Almaenig ostwng o tua 30% yn ystod y rhyfel; yn Brandenburg roedd y colledion tua hanner y boblogaeth. Diweddodd y rhyfel gydag arwyddo Cytundeb Münster, rhan o Heddwch Westphalia.

Ffurfiwyd y Conffederasiwn Almaenig yn 1815, yna ffurfiwyd Ymerodraeth yr Almaen yn 1871, gydag Otto von Bismarck yn ffigwr allweddol. Daeth yr ymerodraeth i ben ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, a ffodd yr ymerawdwr Wilhelm II i'r Iseldiroedd.

Sefydlwyd Gweriniaeth Weimar yn 1919, ond dilynwyd y rhyfel gan gyni mawr, a wnaed yn waeth gan y teimlad gan ran o'r boblogaeth o ddarostyngiad cenedlaethol oherwydd Cytundeb Versailles. Yn 1933 daeth Adolf Hitler yn Ganghellor. Daeth diwedd ar Weriniaeth Weimar a dechreuodd y Drydedd Reich. Arweiniodd hyn at yr Ail Ryfel Byd 19391945. Wedi i'r Almaen gael ei gorchfygu, rhannwyd y wlad yn ddwy, Gorllewin yr Almaen a Dwyrain yr Almaen. Parhaodd hyn hyd 1990, pan adunwyd y wlad.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod]

Gwastadedd yw rhan helaeth o ogledd yr Almaen, rhan o Wastadedd Canolbarth Ewrop. Mae'r de yn llawer mwy mynyddig, yn enwedig yn yr Alpau, lle mae'r copa uchaf, y Zugspitze, yn cyrraedd 2,962 medr o uchder.

Ac eithrio Afon Donaw yn y de, mae afonydd yr Almaen yn llifo tua'r Môr Tawch a'r Môr Baltig, gan gynnwys Afon Rhein, Afon Elbe, Afon Weser ac Afon Ems, sy'n llifo tua'r gogledd. Y llyn mwyaf yw'r Bodensee, er nad ydyw yn ei gyfanrwydd yn gyfan gwbl o fewn ffiniau'r Almaen.

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod]

Economi[golygu | golygu cod]

Demograffeg[golygu | golygu cod]

Pyramid poblogaeth yr Almaen yng Nghyfrifiad 2000.
Poblogaeth yr Almaen 1961–2003 (Cyn 1990, poblogaeth Gorllewin a Dwyrain yr Almaen wedi eu cyfuno).
Amcangyfrif o nifer y mewnfudwyr i'r Almaen o wledydd eraill yn 2006. Yr Almaen oedd y 3ydd gwlad a gymerodd y mwyaf o drigolion o'r tu allan, gyda 12% o'r boblogaeth yn dal pasport gwlad arall.[1]

Gyda phoblogaeth o tua 81,198,000 (Rhagfyr 2014), yr Almaen yw'r wlad fwyaf o ran poblogaeth sy'n gyfan gwbl o fewn Ewrop, a'r 14eg fwyaf poblog yn y byd. O'r rhain, mae tua 16 miliwn heb fod o dras Almaenig, gyda phobl o dras Tyrcaidd y mwyaf niferus o'r rhain, 1,713,551 yn 2007. Nid yw'r boblogaeth yn cynyddu ar hyn o bryd.

Gelwir pedwar grŵp o bobl yn "lleiafrifoedd cenedlaethol", y Daniaid, Frisiaid, Roma a Sinti, a'r Sorbiaid. Wedi'r Ail Ryfel Byd, symudodd tua 14 miliwn o Almaenwyr ethnig i'r Almaen o Ddwyrain Ewrop, ac ers y 1960au bu mewnfudo Almaenwyr ethnig o Casachstan, Rwsia a'r Wcrain. Er i'r rhan fwyaf o Iddewon yr Almaen gael eu llofruddio yn yr Holocost, mae'r niferoedd wedi cynyddu yn ddiweddar, gyda thros 200,000 wedi ymfudo i'r Almaen o Ddwyrain Ewrop ers 1991.

Dinasoedd mwyaf yr Almaen, gyda ffigyrau poblogaeth ar gyfer Rhagfyr 2005, yw:

Crefydd[golygu | golygu cod]

Y prif enwadau a chrefyddau yw:

Ceir y rhan fwyaf o Gatholigion yn y de-ddwyrain, yn ne Bafaria, ac yn ardal Cwlen, tra bo Protestaniaid yn fwyaf niferus yn y gogledd.

Taleithiau[golygu | golygu cod]

Mae'r Almaen yn weriniaeth ffederal sy'n cynnwys 16 o daleithiau ffederal a elwir yn Länder (unigol: Land):

Baner Talaith Prifddinas Arwynebedd
(km²)
Poblogaeth Dwysder
poblogaeth
(EW/km²)
Baden-Württemberg Stuttgart 35,752 10,736,000 300
Bafaria München 70,552 12,469,000 177
Berlin 892 3,395,000 3,806
Brandenburg Potsdam 29,479 2,559,000 87
Bremen  Bremen 404 663,000 1,641
Hamburg  755 1,744,000 2.309
Hessen Wiesbaden 21,115 6,092,000 289
Mecklenburg-Vorpommern Schwerin 23,180 1,707,000 74
Niedersachsen Hannover 47,624 7,994,000 168
Nordrhein-Westfalen Düsseldorf 34,085 18,058,000 530
Rheinland-Pfalz Mainz 19,853 4,059,000 204
Saarland Saarbrücken 2,569 1,050,000 409
Sachsen Dresden 18,416 4,274,000 232
Sachsen-Anhalt Magdeburg 20,446 2,470,000 121
Schleswig-Holstein Kiel 15,799 2,833,000 179
Thüringen Erfurt 16.172 2,335,000 144
Cyfanswm 357,114 82,438,000 231

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "International Migration 2006" (PDF). UN Department of Economic and Social Affairs. Cyrchwyd 18 Mawrth 2011.
Chwiliwch am Yr Almaen
yn Wiciadur.