9
Oddi ar Wicipedia
Y ganrif 1af CC - Y ganrif 1af - 2il ganrif
40au CC 30au CC 20au CC 10au CC 00au CC 00au 10au 20au 30au 40au 50au
Digwyddiadau[golygu]
- Illyria yn cael ei throi yn dalaith Rufeinig wedi i wrthryfel fethu.
- Cynghrair o lwythau Almaenig dan Arminius yn gorchfygu byddin Rufeinig dan Publius Quinctilius Varus ym Mrwydr Fforest Teutoburg, gan ddinistrio tair lleng Rufeinig.
- Legio II Augusta, XX Valeria Victrix a XIII Gemina yn cael eu symud i'r Almaen i gymeryd lle'r llengoedd a ddinistriwyd.
- Ym Mhrydain, y Catuvellauni yn ymosod ar y Trinovantes ac yn cipio Camulodunum.
- Ofydd yn cael ei alltudio i Tomis.
- Pannonia yn dod dan reolaeth Rhufain.
Genedigaethau[golygu]
- 18 Tachwedd — Vespasian, ymerawdwr Rhufeinig.
Marwolaethau[golygu]
- Publius Quinctilius Varus, cadfridog Rhufeinig (hunanladdiad wedi iddo gael ei orchfygu ym Mrwydr Fforest Teutoburg.