Zugspitze

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Zugspitze
Wettersteingebergte
Y Zugspitze tros yr Ehrwalder Becken
Llun Y Zugspitze tros yr Ehrwalder Becken
Uchder 2162
Lleoliad {{{lleoliad}}}
Gwlad Yr Almaen
Zugspitze Airview 01.jpg

Y Zugspitze yw mynydd uchaf yr Almaen. Mae'n 2962 medr o uchder. Saif yn y Wettersteingebergte, ar y ffîn rhwng yr Almaen ac Awstria. Mae'r rhan Almaenig o'r mynydd yn ne Bafaria.

Y trefi agosaf yw Grainau, Garmisch-Partenkirchen, ar ochr yr Almaen ac Ehrwald ar ochr Awstria. Mae rheilffordd yn arwain i'r copa o Garmisch-Partenkirchen, ac mae ceir cabl i'r copa yn cychwyn o'r ochr Awstraidd a'r ochr Almaenig. Ceir bwyty ac amgueddfa fechan ar y copa. Ar lethrau'r mynydd, mae tair allan o'r pum rhewlif yn yr Almaen.