Garmisch-Partenkirchen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Garmisch-Partenkirchen o'r awyr

Tref a landkreis yn nhalaith Bafaria yn ne yr Almaen yw Garmisch-Partenkirchen. Hi yw unig dref Alpaidd yr Almaen; saif wrth droed y Wettersteingebergte, gerllaw copa'r Zugspitze (2963 medr), copa uchaf yr Almaen. Roedd y boblogaeth yn 2005 yn 26,249.

Crewyd tref Garmisch-Partenkirchen yn 1935, ar orchymyn Adolf Hitler, pan unwyd trefi Garmisch a Partenkirchen. Roedd hyn yn rhan o'r paratoadau ar gyfer Gemau Olympaidd y Gaeaf, 1936, a gynhaliwyd yma. Mae'n ganolfan boblogaidd i dwristiaid, a cheir rheilffordd i gopa'r Zugspitze oddi yma.

Pobl enwog o Garmisch-Partenkirchen[golygu]