Cwlen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cwlen
Arfbais Cwlen

Pedwaredd dinas fwyaf yr Almaen yw Cwlen (Almaeneg: Köln /kœln/, Ffrangeg a Saesneg: Cologne) ar ôl Berlin, Hambwrg a Munich, gyda tua un filiwn o drigolion. Mae wedi'i lleoli yn nhalaith Nordrhein-Westfalen, ar lan Afon Rhein. Mae hi'n adnabyddus iawn am ei heglwys gadeiriol yn y dull Gothig.

Hanes[golygu]

Dechreuodd yr hanes Cwlen tua dwyfil o flynyddoedd yn ol gan sefydliad y ddinas gan y Rhufeinwyr yn 19 OC. Enw cyntaf y ddinas oedd "Oppidum Ubiorum" tan 50 OC, pan codwyd y tref i ddinas gan ymerawdwr Rhufain Claudius ar ol i'w wraig e Agrippina, sydd fod wedi ceni yn Oppidum Ubiorum ac yn wnes ymlaen wedi mynd i Rufain, erchi iddo fe am hynny. Newidiwyd enw'r ddinas i "Colonia Claudia Ara Agrippinensium", neu CCAA yn fyr wedyn. Datblygwyd enw diwedda'r ddinas, Köln o'r gair Lladin Colonia, sy'n golygu gwladfa. Mae'r enwau yn llawer o ieithiau eraill, fel Cologne yn y Saesneg a Ffrangeg, Kolonia yn y Pwyleg, a hefyd Cwlen yn y Gymraeg yn dod o honna.

Santes Ursula[golygu]

Roedd Ursula yn dywysgoges o deyrnas Dumnonia (Dyfnaint). Ar gais ei thad, hwyliodd am Lydaw at ei darpar-ŵr Cynan Meiriadog, gyda 11,000 o wyryfon fel gweinyddesau. Gyrrodd storm wyrthiol hwy yr holl fordd i draethau Gâl mewn diwrnod, a phenderfynodd Ursula fynd ar bererindod. Aeth i ddinas Rhufain, ac yna ymlaen i Gwlen, oedd dan warchae gan yr Hyniaid. Merthyrwyd y gwyryfon i gyd, a saethwyd Ursula ei hun yn farw gan arweinydd yr Hyniaid. Dywedir i hyn ddigwydd tua 383. Ym Masilica y Santes Ursula yng Nghwlen, ceir creiriau y dywedir eu bod yn weddillion Ursula a'r gwyryfon. Daeth Cwlen yn ganolfan pererindod o bwys mawr yn yr Oesoedd Canol gyda phobl yn tyrru yno o bob rhan o Ewrop.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu]

  • Amgueddfa Römisch-Germanisches
  • Amgueddfa Wallraf-Richartz
  • Colonius
  • Eglwys gadeiriol
  • Hansa Hochhaus
  • Kölner Philharmonie
  • Kölnturm
  • Lanxess Arena
  • Messeturm Köln
  • RheinEnergieStadion

Enwogion[golygu]

Gefeilldrefi[golygu]

Gweler hefyd[golygu]

Flag Germany template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am yr Almaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Cyfeiriadau[golygu]