Sachsen-Anhalt

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Sachsen-Anhalt

Un o daleithiau ffederal yr Almaen yw Sachsen-Anhalt. Saif yn nwyrain y wlad, ac roedd y boblogaeth yn 2007 yn 2,414,917. Prifddinas y dalaith yw Magdeburg. Mae'n ffinio ar daleithiau Niedersachsen, Brandenburg, Sachsen a Thüringen.

Gwastadedd yw rhan ddwyreiniol y dalaith, tra yn y de-orllewin ceir mynyddoedd yr Harz. Y copa uchaf yw'r Brocken, 1,141 medr o uchder. Yr afon bwysicaf yw afon Elbe. Halle (Saale) yw dinas fwyaf y dalaith.