Y Swistir

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Schweizerische Eidgenossenschaft
Confédération suisse
Confederazione Svizzera
Confederaziun svizra
Confoederatio Helvetica

Y Conffederasiwn Swisaidd
Baner y Swistir Arfbais y Swistir
Baner Arfbais
Arwyddair: Unus pro omnibus, omnes pro uno (Lladin: "Un er mwyn pawb; pawb er mwyn un")
Anthem: Salm Swisaidd
Lleoliad y Swistir
Prifddinas Bern
Dinas fwyaf Zürich
Iaith / Ieithoedd swyddogol Almaeneg, Ffrangeg, Eidaleg a Romaunsch
Llywodraeth Gweriniaeth Ffederal
 • Cyngor Ffederal Doris Leuthard

Eveline Widmer-Schlumpf (Arlywydd 2012)
Ueli Maurer (Is-arlywydd 2012)
Didier Burkhalter
Simonetta Sommaruga
Johann Schneider-Ammann
Alain Berset

Annibyniaeth
 • Datganwyd
 • Cydnabuwyd
 • Gwlad Ffederal
Siarter Ffederal
1 Awst 1291
24 Hydref 1648
1848
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
41,285 km² (136fed)
4.2
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2005
 - Cyfrifiad 2000
 - Dwysedd
 
7,288,010 (95fed)
7,252,000
182/km² (61af)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$264.1 biliwn (39fed)
$35,300 (10fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2003) 0.947 (7fed) – uchel
Arian cyfred Ffranc Swisaidd (CHF)
Cylchfa amser
 - Haf
CET (UTC+1)
CEST (UTC+2)
Côd ISO y wlad .ch
Côd ffôn +41

Mae'r Swistir (enw Lladin swyddogol: Confoederatio Helvetica, Almaeneg: Schweiz, Ffrangeg: Suisse, Eidaleg: Svizzera, Romaunsch: Svizra) yn wladwriaeth ffederal yng nghanol Ewrop, ac felly heb arfordir. Mae'n ffinio â'r Almaen, Ffrainc, yr Eidal, Awstria a Liechtenstein. Bern ydy'r brifddinas, a Zürich ydy'r ddinas fwyaf. Mae'n wlad fynyddig iawn ac mae rhan helaeth o'r Alpau o fewn ei ffiniau.

Mae'r Swistir yn un o wledydd cyfoethocaf y byd 'per capita', gyda thraddodiad cryf o fod yn niwtral yn wleidyddol ac yn filwrol. Serch hynny, mae'r Swistir wedi bod yn flaenllaw ym myd cydweithrediad rhyngwladol, gan roddi cartref i nifer o fudiadau rhyngwladol megis Y Groes Goch.

Mae'r enw Lladin ar y wlad Confoederatio Helvetica yn osgoi gorfod dewis un o bedair iaith swyddogol y wlad, sef Almaeneg, Ffrangeg, Eidaleg a Romaunsch.

Hanes[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Hanes y Swistir

Yn y cyfnod Rhufeinig, roedd nifer o lwythau Celtaidd yn byw yn yr ardal sy'n awr yn ffurfio'r Swistir. Y pwysicaf o'r rhain oedd yr Helvetii. Daw enw swyddogol Lladin y Swistir, Confoederatio Helvetica neu Helvetia, o enw'r llwyth yma. Ceir manylion amdanynt gan Iŵl Cesar yn ei Commentarii de Bello Gallico. Dywed Cesar fod un o uchelwyr yr Helvetii, Orgetorix, wedi cynllunio i'r holl lwyth ymfudo o ardal yr Alpau i orllewin Gâl. Gadawodd yr Helvetii eu cartrefi yn 58 CC. Erbyn iddynt gyrraedd ffîn tiriogaeth yr Allobroges, roedd Cesar wedi malurio'r bont yn Genefa i'w hatal rhag croesi. Gyrrodd yr Helvetii lysgenhadon i ofyn am ganiatad i fynd trwy'r tiriogaethau hyn, ond wedi i Cesar gasglu ei fyddin ynghyd, gwrthododd roi hawl iddynt basio. Dilynodd yr Helvetii lwybr arall, trwy diriogaethau'r Sequani, ac anrheithio tiroedd yr Aedui, a ofynnodd i Cesar am gymorth. Ymosododd Cesar arnynt wrth iddynt groesi Afon Saône, a'u gorchfygu. Gorchfygwyd hwy eto ger Bibracte, a bu raid iddynt ildio i fyddin Cesar yn fuan wedyn. Gorchmynodd iddynt ddychwelyd i'w hen diriogaethau.

Sefydlwyd y Swistir ar 1 Awst 1291, pan ddaeth tri canton, Uri, Schwyz ac Unterwalden, at ei gilydd a gwneud cytundeb i gynothwyo ei gilydd i ddod yn annibynnol ar frenhinllin yr Habsburg.

Cydnabyddwyd annibyniaeth y Swistir yn Heddwch Westffalia yn 1648, a roddodd ddiwedd ar y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain. Ychwanegodd cantonau eraill ei hunain at y conffederasiwn dros y blynyddoedd.

Yn ystod y Chwyldro Ffrengig, newidiwyd y dull o lywodraethu, a sefydlwyd y Weriniaeth Helfetaidd fel gweriniaeth ganolog. Fodd bynnag, dychwelwyd at drefn conffederasiwn yn 1803.

Bu'r Swistir yn niwtral yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd.

Daearyddiaeth[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Daearyddiaeth y Swistir
Map o'r Swistir

Dominyddir daearyddiaeth y Swistir gan ei mynyddoedd a'i bryniau. Saif y Swistir yng nghanolbarth Ewrop fel gwlad tirgaeëdig, felly nid oes ganddi arfordir. Yn y de mae prif gadwyn yr Alpau yn ymestyn ar hyd y ffin â'i copaon uchaf yn dynodi'r ffin honno. Copa uchaf y Swistir yw'r Dufourspitze, 4634 medr o uchder. Ymhlith copaon enwocaf yr Alpau Swisaidd mae'r Matterhorn, yr Eiger a'r Jungfrau. Yn y canolbarth mae llwyfandir, tra yn y gogledd-orllewin mae mynyddoedd y Jura o gwmpas y ffîn a Ffrainc. Mae'r mynyddoedd hynny a'r bryniau llai sy'n llenwi'r rhan fwyaf o ganolbarth a gogledd y wlad yn cael eu gwahanu gan nifer o ddyffrynoedd a chymoedd mawr a bach.

Y mae'r Swistir yn wlad â nifer fawr o lynnoedd ac afonydd yn ogystal. Rhennir y ddau lyn mwyaf, Llyn Léman (Llyn Genefa) (581.3 km2) a'r Bodensee (541.1 km2) gyda gwledydd eraill. Y llyn mwyaf sy'n gyfangwbl o fewn y Swistir yw Llyn Neuchâtel (218.3 km2). Mae'n wlad goediog iawn.

Defnydd tir[golygu]

  • cnydau: 10%
  • cnydau parhaol: 2%
  • porfa barhaol: 28%
  • fforestydd a choedydd:32%
  • arall:28% (amcangyfrif 1993)

Llywodraeth[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Cantons y Swistir

Suisse cantons.svg


Demograffeg[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Demograffeg y Swistir

Saif y Swistir yng nghanolbarth Ewrop, ac mae'n fan cyfarfod i nifer o ddiwylliannau Ewrop, gan fod y wlad yn ffinio â Ffrainc, yr Almaen a'r Eidal. Mae 75% o'r boblogaeth yn byw ar y llwyfandir yng nghanol y wlad, rhwng yr Alpau a mynyddoedd y Jura ac o ddinas Genefa yn y gorllewin hyd at afon Rhein a'r Bodensee yn y gogledd-ddwyrain. Mae gan y wlad safon byw gyda'r uchaf yn y byd.

Ceir nifer sylweddol o drigolion nad ydynt yn ddinasyddion y Swistir; 1,524,663 (20.56%) yn 2004, o'i gymharu a tua 5.9 miliwn o ddinasyddion yr un flwyddyn. Roedd tua 623,100 o ddinasyddion y Swistir yn byw mewn gwledydd eraill, y nifer fwyaf yn Ffrainc (166,200).

O ran crefydd, disgrifia 5.78 miliwn (79.2%) o'r trigolion eu hunain fel Cristnogion yn 2000 (Catholig 41.8%, Protestaniaid 35.3%, Eglwys Uniongred 1.8%). Roedd 809,800 (11.1%) heb grefydd, 310,800 (4.3%) yn ddilynwyr Islam a 17,900 (0.2%) yn Iddewon.

Dinasoedd[golygu]

Zürich
Genefa

Dinasoedd mwyaf y Swistir yn ôl poblogaeth yw:

Rhif Enw 1995 2000 2005 2006 Canton
1. Zürich 343869 337900 347517 350125 Zürich
2. Genefa 173549 174999 178722 178603 Genefa
3. Basel 174007 166009 163930 163081 Basel Ddinesig
4. Bern 127469 122484 122178 122422 Bern
5. Lausanne 115878 114889 117388 118049 Vaud
6. Winterthur 87654 88767 93546 94709 Zürich
7. St. Gallen 71877 69836 70316 70375 St. Gallen
8. Lucerne 58847 57023 57533 57890 Lucerne
9. Lugano 26000 25872 49223 49719 Ticino
10. Biel 50733 48840 48735 49038 Bern
11. Thun 39094 39981 41138 41177 Bern
12. Köniz 36335 37196 37250 37226 Bern
13. La Chaux-de-Fonds 37375 36747 36809 36713 Neuchâtel
14. Schaffhausen 34073 33274 33569 33459 Schaffhausen
15. Fribourg 32501 31691 33008 33418 Fribourg
16. Chur 30091 31310 32409 32441 Graubünden
17. Neuchâtel 31768 31639 32117 32333 Neuchâtel
18. Vernier 28423 28727 30020 30606 Genefa
19. Uster 26139 27893 29855 30144 Zürich

Ieithoedd[golygu]

Ieithoedd swyddogol cantonau y Swistir.

Ceir nifer o ieithoedd swyddogol yn y Swistir. Almaeneg yw mamiaith y nifer fwyaf o'r trigolion, 63.7% yn ôl cyfrifiad 2000. O 26 canton y Swistir, Almaeneg yw iaith 17 ohonynt. Siaredir nifer o dafodieithoedd Almaeneg y Swistir, Schwyzerdütsch, a dim ond yn y sefyllfaoedd mwyaf ffurfiol y defnyddir Almaeneg safonol (Hochdeutsch).

Siaredir Ffrangeg fel mamiaith gan 20.4% o'r boblogaeth, yng ngorllewin y wlad yn bennaf. Ffrangeg yw iaith swyddogol pedair canton: Genefa, Jura, Neuchâtel a Vaud, gyda thair arall yn ddwyieithog gyda Ffrangeg yn un o'r ieithoedd swyddogol. Siaredir Eidaleg fel iaith gyntaf gan 6.5%, yn y de yn bennaf, ac mae'n iaith swyddogol canton Ticino. Siaredir Romawnsch gan 0.5%, yn bennaf yng nghanton Grisons. Roedd tua 9% a mamiaith nad oedd yn un o ieithoedd swyddogol y Swistir.

Economi[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Economi y Swistir

Gweler hefyd[golygu]

Dolenni allanol[golygu]