CERN

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cyfundrefn Ewropeaidd dros Ymchwil Niwclear
Organisation Européenne pour la Recherche Nucléaire
Logo Cern
Aelodau
Aelodau wladwriaeth
Pencadlys Genefa
Lansiad 29 Medi 1954
Aelodaeth 20 aelod-wladwriaeth a 8 gwyliwr
Cyfarwyddwr cyffredin Rolf-Dieter Heuer
Gwefan http://www.cern.ch/
Gweithio ar y Compact Muon Solenoid Detector ar gyfer y Gwrthdrawydd Hadronau Mawr yn CERN
Map yn dangos aelodaeth CERN o 1954 hyd at 1999

[[

Cerflun Shiva yn cymryd rhan yn y ddawns Nataraja

Cyfundrefn ar gyfer ymchwil niwclear ar raddfa atomig ac is-atomig yw'r Cyfundrefn Ewropeaidd dros Ymchwil Niwclear (Ffrangeg: Organisation Européenne pour la Recherche Nucléaire - yn gynt Conseil Européen pour la Recherche Nucléaire), a adnabyddir fel CERN (sef: /ˈsɝːn/ (IPA: [sɛʀn]) yn Ffrangeg).

CERN yw labordy ffiseg gronynnau (Saesneg: particle physics laboratory) mwya'r byd ac mae'n cynnwys cyflymydd gronynnau mwyaf pwerus y byd sydd wedi ei leoli yn yr ardal rhwng y mynyddoedd Jura a'r Alpau yn y Swistir yn agos i ffin Ffrainc. Mae dros 2,600 o staff llawn-amser a 7,931 o wyddonwyr yn gweithio ar y prosiect. Mae dros 20 o wledydd Ewrop (gweler y map); yn cynnwys 580 prifysgol yn cyfrannu i'r prosiect.

Yn swyddogol, nid yw safleoedd CERN yn dod o dan oruchwyliaeth naill ai'r Swistir na Ffrainc. Cyfrannodd aeloda'r gyfundrefn (yn y flwyddyn 2008) dros 664 miliwn Ewro i'r gwaith.[1]

Prif bwrpas CERN yw darparu cyflymyddion gronynnau ac yr isadeiledd sydd angen ar gyfer ffiseg egni uchel. Lleolir y Gwrthdrawydd hadronnau mawr yno.

Hanes[golygu]

Ar 29 Medi 1954 daeth 11 gwlad gorllewin Ewrop at ei gilydd i arwyddo cytundeb a oedd yn eu clymu i'r prosiect hwn. Yn 1954 newidiwyd enw'r mudiad i Organisation Européenne pour la Recherche Nucléaire ond penderfynwyd cadw'r hen acronym CERN.[2]

Yn fuan wedi ei sefydlu, datblygodd y gwaith i fod yn fwy nac ymchwil i mewn i'r niwclews atomig, gan ymestyn i ynni-uwch, maes ffiseg sydd yn ymwneud â'r rhyngweithio rhwng gronynnau is-atomig ac felly, cyfeirir at CERN yn aml fel: European laboratory for particle physics (Laboratoire européen pour la physique des particules).

Lyn Evans o Aberdâr oedd cyfarwyddwr y prosiect LHC.

Darganfyddiadau[golygu]

Mae nifer o ddarganfyddiadau ffiseg wedi'i wneud parthed â chnewyllyn yr atom yn CERN. Dyma rai ohonynt:

  • 1973: Darganfod cerrynt niwtral yn Siambr Swigen Gargamelle[3]
  • 1983: Darganfod bosonau W a Z yn arbrofion UA1 a UA2.[4]
  • 1989: Darganfod sawl teulu o niwtrinos sydd ar binacl boson Z.
  • 1995: Creu (am y tro cyntaf) atomau Gwrth-hydrogen yn arbrawf PS210.[5]
  • 1999: Darganfod CP-violation uniongyrchol yn arbrawf NA48 [6]
  • 2011: Cynnal atomau Gwrth-hydrogen yn yr arbrawf ALPHA am dros 15 munud[7]
  • 2012: Cynhyrfu'r trosiad cyseiniol cwantwm cyntaf mewn gwrth-atom (Gwrth-hydrogen) gan defnyddio microdonnau yn yr arbrawf ALPHA[8]
  • 2013: Darganfod yr Higgs Boson (cyhoeddiad petrus)

Yn 1984 cyflwynwyd y Wobr Nobel ffiseg i Carlo Rubbia a Simon van der Meer am eu gwaith yn paratoi'r ffordd i ddarganfod bosonau W a Z.

Yn 1992 aeth y Wobr Nobel ffiseg i'r ymchwilydd Georges Charpak o CERN am ei "ddarganfyddiad ac am ddatblygu synwyryddion cnewyllol."

Y cyfrifiadur[golygu]

Dechreuodd y we fyd-eang yma yn CERN mewn prosiect o'r enw ENQUIRE, a sefydlwyd gan Sir Tim Berners-Lee a Robert Cailliau yn 1989. Roedd y prosiect yn ymwneud â thestun, neu uwch-destun a oedd yn cysylltu â'i gilydd. Ei bwrpas wrth gwrs oedd cysylltu'r holl wyddonwyr byd-eang oedd yn gweithio gyda'i gilydd. Ar 30 Ebrill 1993, cyhoeddodd CERN fod y We Fyd-eang (neu www) am ddim i bawb. Mae copi o'u gwefan gynharaf hefyd i'w weld.[9] I roi hyn mewn cyd-destun, yn 1996 y lansiwyd y wefan Gymraeg cynhwysfawr gyntaf.[10]

Cyn y gwaith hwn ar y we, roedd CERN eisoes wedi bod yn flaenllaw iawn yn datblygu'r rhyngrwyd gan gychwyn ar ddechrau'r 1980au.[11]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. (Saesneg) Resources Planning and Control. CERN.
  2. (Saesneg) The CERN Name. CERN.
  3. (Saesneg) 1973: neutral currents are revealed. CERN.
  4. (Saesneg) 1983: discovery of the W and Z particles. CERN.
  5. (Saesneg) 1995: first observation of antihydrogen. CERN.
  6. (Saesneg) V. Fanti et al. (1999). A new measurement of direct CP violation in two pion decays of the neutral kaon. Physics Letters.
  7. Jonathan Amos [6 Mehefin 2011]BBC © 2011 Retrieved 2011-06-06
  8.  Gwrth-hydrogen mewn potel (Supplementary Material).
  9. (Saesneg) World Wide Web. W3.
  10.  Rhedeg ar Wydr.
  11. (Saesneg) Ben Segal (Ebrill 1995). A Short History of Internet Protocols at CERN.

Dolenni allanol[golygu]


Physics template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ffiseg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.