Offeryn cerdd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Offerynnau cerdd yw pethau sy'n cael eu defnyddio i wneud cerddoriaeth.

Efallai mai'r ffurf cyntaf o gerddoriaeth oedd canu - defnyddio'r llais dynol ac mae defnyddioi'r corff - curo dwylo neu guro'r traed ar lawr i wneud rhythm yn hynafol iawn. Y datblygiad nesa fasai defnyddio pethau y darganfyddwyd megis cyrn anifeiliaid neu foncyffion gwag. Dros amser, datblygwyd nifer helaeth o offerynnau gwahanol.

Mae sŵn yn dod o awyr sy'n dirgrynu, ac mae offerynnau yn gweithio trwy rheoli a helaethu'r dirgryniadau i wneud effaith ddymunol a phleserus.

Rhestr offerynnau cerdd[golygu]

Offerynnau chwyth[golygu]

Offerynnau chwythbren
Dydy nhw ddim wedi eu gwneud o bren o angenrheidrwydd
Clarinet
Chwiban tun
Ffliwt
Recorder
Sacsoffon
Offerynnau pres
Mae offer pres yn cael eu hystyried ar wahân i offer chwythbrenau
Tiwba
Trombôn
Utgorn

Offerynnau taro[golygu]

Drymau
Fibraffon
Glockenspiel
Seiloffon
Symbolau
Tambwrîn
Timpan
Triongl

Allweddellau[golygu]

Allweddell
Harpsicord
Organ
Piano

Offerynnau tannau Offerynnau Llinynnol[golygu]

Moodswinger, 2006, Yuri Landman
Balalaika
Banjô
Bas feiol (Basgrwth)
Crwth
Ffidil
Fiola
Gitâr
Sielo
Telyn

Offerynnau Trydan[golygu]

Gitâr drydan
Syntheseisydd

Offerynnau Canu Gwledig[golygu]

Mae unrhyw beth a ddefnyddir i greu cerddoriaeth yn offeryn cerdd. Dros y canrifoedd mae llawer o offerynnau anghyffredin wedi eu creu gan gynnwys:

Didgeridoo
Vina
Neola

Nodyn[golygu]

  • Offerynnau taro : Yn y byd cerddorol mae offer tannau sy ddim yn perthyn i deulu'r feiol, e.e. telyn, gitâr, yn cael eu hystyried fel offerynnau taro, er bod tannau ganddyn nhw ac er bod y cerddor yn eu tynnu yn hytrach na'u taro. Mae piano a harpsicord hefyd yn cael eu hystyried fel offerynnau taro.