Pibgorn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Pibgorn Llydewig

Am ganrifoedd, bu'r pibgorn (neu'r cornicyll a phib y bugai)[1] yn offeryn poblogaidd iawn gan y Cymry a gweddill y gwledydd Celtaidd. Yn Llydaw, ceir offern tebyg iawn o'r enw bombarde. Mae'r offeryn chwyth yma'n gwneud sŵn treiddgar iawn, nid anhebyg i'r pibgodau Albanaidd a Gwyddelig ond o ran gwneuthuriad mae'n debyg i glarined cyntefig. Ceir chwe thwll ar y top ac un oddi tano; mae ganddo gwmpas o wythfed.

Ceir tair enghraifft o'r pibgorn yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan, y dair yn dyddio'n ôl i'r 18fed ganrif. Credir ei fod yn offeryn poblogaidd gan hwsmyn wrth yrru'r gwartheg i'r ffair a ffermwyr. Cenid yr offeryn yn aml mewn brwydr, gyda chyfarwyddiadau milwrol yn treiddio drwy sŵn yr ymladd. Arferid dawnsio i'w sŵn hefyd. Dywedodd William Morris, un o Forysiaid Môn, mewn llythyr at ei frawd ym 1759: Difyr oedd gweled llanciau â'u pibau cyrn dan eu ceseiliau....yn hel gwarthegau tan chwibanu 'Mwynen Mai' a 'Meillionnen'. Yn ôl Daines Barrington ym 1770, dim ond ar Ynys Môn yr oedd yr offeryn yn parhau i gael ei chwarae; a chadarnhaodd Edward Jones, Bardd y Brenin, hyn hefyd ym 1794.

Pibgyrn Cymreig yn cael eu chwythu gan aelodau o Clerorfa yng Ngŵyl Tegeingl, Awst 2010

Fe wneir ei gorff o bren neu asgwrn, gyda chwe thwll i'r bysedd ac un i'r fawd. Ceir corsen sengl o bren ysgawen sy'n cael ei dal rhwng y dannedd, a thrwy chwythu'n galed y ceir tôn - yn debyg i'r obo.

Yn ôl Nansi Richards y Sipsiwn Cymreig oedd yr olaf i gannu'r pibgorn.

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Gwefan Clera; erthygl ar y pibgorn; adalwyd 17 Ebrill 2013
Cerddcymru.png Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato