Telyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gwennan Gibbard.

Offeryn cerdd gyda thannau a genir â'r bysedd yw telyn. Mae'n offeryn cerdd hynafol y cyfeirir ato yn y Beibl, mewn hen lawysgrifau Cymraeg canoloesol a ffynonellau cynnar eraill, a cheir tystiolaeth archaeolegol sy'n dangos fod telynau i'w cael ym Mesopotamia yng nghyfnod gwareiddiad Sumer, rai milflynyddau Cyn Crist.

Disgyblion y Sgoil Ghàidhlig Ghlaschu yng Ngŵyl Tegeingl, 2012.

Cymru a'r gwledydd Celtaidd[golygu]

Tair telyn yng Ngŵyl Tegeingl, 2012

Yn ôl Cyfraith Hywel Dda byddai'r brenin yn rhoi offeryn cerdd i'r pencerdd, - telyn, crwth neu bibgorn. Roedd tri math o delyn yn ôl cyfraith Hywel. Roedd telyn y brenin a telyn y pencerdd werth cant ac ugain o geiniogau, tra roedd telyn uchelwr werth trigain ceiniog.

Mae Gerallt Gymro yn disgrifio telynau Iwerddon, Cymru a'r Alban fel rhai a oedd â thannau efydd. Mae'n defnyddio union yr un geiriau i ddisgrifio cerddoriaeth Iwerddon a Chymru. Yn ôl Gerallt roedd dau fath o delyn yn llysoedd Cymru a dichon mai telyn rawn ar gyfer perfformio a datgan barddoniaeth oedd y naill ac mai telyn tannau efydd i berfformio'r gerddoriaeth offerynnol oedd y llall.

Mae peth o gerddoriaeth y Canol Oesoedd wedi goroesi yn llawysgrif enwog Robert ap Huw a gopiwyd tua 1613. Mae'r llawysgrif yn cynnwys tua 30 o ddarnau ar gyfer y delyn sydd wedi eu dyddio i'r cyfnod 1340-1485. Mae'n cynnwys y trebl a'r bas a dyma'r llawysgrif hynaf o gerddoriaeth delyn yn y byd. Technegau'r delyn tannau efydd a amlygir yn llawysgrif Ap Huw drwyddi draw. Mae'n cynnwys nifer o ffurfiau cerddorol megis Gostegion, Caniadau a Phrofiadau ar bedwar mesur ar hugain cerdd dant (Corffiniwr, Mac y Mwn Hir, Tytyr Bach at ati). Mae'r gerddoriaeth wedi ei seilio ar strwythur dau ddosbarth o nodau syn ffurfio harmoni'r Cyweirdant a'r Tyniad ar sylfaen harmonig nid annhebyg i'r double tonic a glywir yng ngherddoriaeth pibau mawr yr Alban.

Mae nifer o feirdd cyfnod Beirdd yr Uchelwyr yn disgrifio'r delyn yn eu barddoniaeth. Mae'n ymddangos fod y delyn Gymreig yn y bymthegfed a'r unfed ganrif ar bymtheg â cholofn syth iddi gyda'r seinfwlch wedi ei naddu o un darn o gelynen neu ywen.

Roedd Llanrwst yn enwog am ei gwneuthurwyr telyn. Gwnaeth John Richards, Llanrwst 1711 - 1789, er engraifft delyn deires yn 1755 i John Parry (Parry Ddall Rhiwabon) o Wynnstay, Rhiwabon.

Y delyn deires[golygu]

Ymhlith y telynorion cyfoes sy'n canu'r delyn deires mae Gwyndaf Roberts (Ar Lôg) a Charwyn Tywyn.

Hen benillion[golygu]

Telynores gyda Dawnswyr Môn.

Ceir sawl hen bennill sy'n cysylltu'r delyn â chariad neu yn ei chymharu â merch. Er enghraifft:

Llun y delyn, llun y tannau,
Llun cyweirgorn aur yn droeau:
Dan ei fysedd, O na fuasai
Llun fy nghalon union innau!
Tebyg ydyw'r delyn dyner
I ferch wen a'i chnawd melysber;
Wrth ei theimlo mewn cyfrinach,
Fe ddaw honno'n fwynach, fwynach.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Hen Benillion, gol. T. H. Parry-Williams, rhifau 244, 247.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Allwedd y Tannau, cylchgrawn Cymeithas Cerdd Dant Cymru
  • Dafydd Wyn Williams, Traddodiad Cerdd Dant ym Môn (1989)
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:


Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am telyn
yn Wiciadur.