Fiola

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Fiola
Amrediad y Fiola

Offeryn cerdd gyda pedwar tant ydy fiola, sy'n cael ei chwarae (fel arfer) gyda bwa. Hon yw ail lais yn nheulu'r feiol o offerynnau, sydd rhwng sain ffidil a sielo. Mae tannau'r fiola yn cael eu tiwnio yn C, G, D, A (o'r gwaelod), yn ddechrau ar y C wythfed o dan C canolog. Gall rhai sy'n anghyfarwydd â'r offerynnau gymysgu rhwng ffidil a fiola oherwydd maint a chywair tebyg yr offerynnau, ond mae tannau fiola wedi eu tiwnio pumed perffaith yn is ac felly mae ganddi sain mwy llawn ac aeddfed. Defnyddir y filoa'n aml ar gyfer y harmoniau yng ngherddoriaeth yn hytrach na'r brif alaw oherwydd yr elfennau yma o'i llais.

Ffurf y Fiola[golygu]

Mae deunydd ac adeilad y fiola'n debyg iawn i'r ffidil, ond mae'n fwy o faint ac yn amrywio mwy yn ei chyfranneddau. Mae corff fiola "maint llawn" fel arfer rhwng un a pedwar modfedd yn hirach na ffidil. Caiff meintiau fiola eu mesur mewn modfeddi neu centimedrau, 16 modfedd (41 cm) ar gyfartaledd. Caiff fiolau bychain eu adeiladu ar gyfer i plant ddysgu, cyn lleied a 12 modfedd (30 cm), sy'n cyfateb i ffidil hanner maint. Yn aml, ceir ffidil bychain ei dannu gyda tannau fiola ar gyfer plant sydd angen meintiau llai fyth. Yn wahanol i'r ffidil, nid oes maint safonol ar gyfer fiola.

Chwarae'r Fiola[golygu]

Chwarae fiola 17" yn y 3ydd safle.

Tra bod fiola'n debyg i ffidil, mae rhai gwahaniaethau yn y dechneg sydd ei anger ar gyfer chwarae'r fiola. Daw y gwanaiaeth myaf nodweddiadol o faint yr offeryn, gan alw am fwy o gryfder corfforol i'w chwarae na'r ffidil sy'n llai ac yn ysganfnach.

  • I gymharu â ffidil, mae gan fiola fel arfer gorff mwy a thannau hirach. Mae lleoliadau'r bysedd yn bellach arwahan. Mae'n gyffredin i chwaraewyr ddefnyddio vibrato mwy dwys gyda'r llaw chwith ac i dal y bwa a'r braich dde yn bellach i ffwrdd oddi wrth y corff. Mae'n rhaid i'r chwaraw hefyd allu dod a'u briach yn bellach ogwmpas i allu chwarae'r tant isaf. Mae hyn yn galluogi i'r bysedd fod yn fwy cadarn a chreu tôn cliriach. Os nad oes gan y chwarawr ddwylo anarferol o fawr, defnyddir byseddu gwahanol, gan gynnwys defnydd aml o'r hanner safle a newid safle'n aml pan fuasai aros mewn un safle'n ddigonol ar ffidil.
  • Mae tannau fiola'n drwchach na rhai ffidil fel rheol. Mae hyn, wedi ei gyfuno gyda'i maint mwy a'i amrediad cywair is, yn creu tôn dyfnach ac mwy aeddfed. Ond, mae'r tannau trwchach hefyd yn golygu fod y fiola'n 'siarad' yn arafach na'i chefner soprano. Yn ymarferol, os yw ffidlwr a fiolydd yn chwarae gyda'u gilydd, mae'n raid i'r fiolydd dechrau symyd y bwa ffracsiwn o eiliad cyn y ffidlwr er mwyn creu sain sy'n dechrau ar yr un amser. Mae tannau trwchach hefyd yn golygu fod angen mwy o bwyasau ar y tannau er mwyn chwarae.
  • Mae tannau trwchach a hirach yn achosi i'r chwarawr ddefnyddio pad eu bys yn hytrach na'r tip, gan greu techneg tebycach i un sielo.
Sawdl bwa, top i gwaelod: ffidil, fiola, sielo
  • Bwa fiola yw'r hiraf mewn cerddorfa, gyda band lletach o wallt ceffyl, sy'n fwyaf amlwg ger sawdl y bwa. Mae bwa fiola yn pwyso rhwng 70 a 74 g, mae hyn yn drymach na rhai ffidil sydd yn pwyso rhwng 58 a 61 g. Mae'r dechneg o fwa yn wahanol hefyd han god angen rhoi mwy o bwysedda r y bwa i alu tynnu'r sain o'r tannau.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:

Dolenni allanol[golygu]