Modfedd
Oddi ar Wicipedia
Measuring tape calibrated in 32nds of an inch
Arferid defnyddio'r mesuriad modfedd (Saesneg: inch) yn yr hen drefn Imperialaidd o fesur. Ceir 36 modfedd mewn llathen a 12 modfedd mewn troedfedd.
Fe'i defnyddir yn Unol Daleithiau America,[1] Canada a gwledydd Prydain. O 1 Gorffennaf 1959 ymlaen, cafodd y mesur "llathen" ei ddiffinio gan UDA a'r Gymanwlad i fod yn union 0.9144 metr.[2] O ganlyniad, y diffiniad o fodfedd yw 25.4 milimetr.
Y symbol rhyngwladol o'r fodfedd ydy in ac ar adegau defnyddir y symbol dyfynodau: ". Fel y rhan fwyaf o ieithoedd, mae'n bur debyg fod y gair Cymraeg "modfedd" yn tarddu o'r gair "bawd".
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Corpus of Contemporary American English (Brigham Young University, adalwyd Rhagfyr 2011)
- ↑ Lasater, Brian (31 Ionawr 2008). The Dream of the West, Pt II. Lulu.com. tud. 256. ISBN 978-1-4303-1382-3. http://books.google.com/books?id=_BQHPD0RNe4C&pg=PA256. Adalwyd 14 May 2012.