Bodhrán

Oddi ar Wicipedia
Bodhrán
Bodhrán gyda churwr, neu cipín yng Ngwyddeleg
Mathdrwm mewn ffram Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Drwm ffrâm Gwyddelig sy'n amrywio o 25 hyd at 65 cm (10" hyd at 26") mewn diamedr yw'r bodhrán ("Cymorth – Sain" bodhrán ) (ynganiad bo-rán; lluosog bodhrannau (Cymraeg) neu bodhráin (Gwyddeleg)). Mae'r mwyafrif yn mesur o 35 hyd at 45 cm (14" hyd at 18"), ac mae ochrau'r drwm yn 9 hyd at 20 cm (3½" hyd at 8") dwfn. Gwneir y blaen gyda chroen gafr fel arfer, ond gellid defnyddio deunydd synthetig hefyd, yn ogystal â chrwyn anifeilaidd eraill. Mae'r drwm ar agor er mwyn gosod cledr yn erbyn y tu mewn i'r croen er mwyn rheoli'r traw ac ansawdd.

Gall un neu ddau groesfar fod yn bresennol, ac weithiau gallent gael eu symud, ond mae hyn yn fwyfwy prin ar gyfer fersiynau modern. Mae rhai bodhráin modern proffesiynol yn integreiddio systemau tiwnio mecanyddol tebyg i'r rhai a ddefnyddir ar ddrymiau a geir mewn offer drymiau.