Ffliwt

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio

Offeryn cerdd yw'r ffliwt; cynhyrchir y sain drwy i'r gwynt a chwythir o'r geg basio dros ymyl twll y ffliwt. Defnyddir y gair 'ffliwten' hefyd mewn rhai mannau. 'Ffliwtydd' yw person sy'n chwythu'r ffliwt.

Defnyddir y gair, hefyd, yn yr idiom, "Mae hi wedi mynd yn ffliwt!" Hynny yw, fod pethau wedi mynd i'r gwellt. Ystyr arall sydd pan ddywedir "Yr hen ffliwten wirion iddi!"

Gan E. Roberts (yn ei lyfr 'Crist o'r Cymylau yn Dod i'r Farn') y ceir hyd i'r enghraifft ysgrifenedig cynharaf o'r sillafiad hwn yn y Gymraeg, a hynny yn 1766.

Ffliwt
Ffliwt

[golygu] Hanes y Ffliwt

Darganfuwyd math o ffliwt 30,000 - 35,000 o flynyddoedd oed yn yr Almaen - wedi ei chreu o ysgithrau mamoth. Yn 2004 y gwnaed y darganfyddiad hwn. Yn yr un ogof darganfuwyd dwy ffliwt wedi eu gwneud allan o esgyrn alarch! Mae'r rhain ymhlith yr offerynau cerdd hynaf a ddarganfuwyd ar wyneb y Ddaear.




Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol