Matterhorn
Oddi ar Wicipedia
| Matterhorn Alpau |
|
|---|---|
| Llun | Y Matterhorn o orsaf Gornergrat |
| Uchder | 4,478 m |
| Gwlad | Y Swistir |
Mynydd 4,478 metr o uchder yn yr Alpau yw'r Matterhorn (Almaeneg: Matterhorn, Eidaleg: Cervino). Saif ar y ffîn rhwng y Swistir a'r Eidal, uwchben Zermatt yn y Swistir a Breuil-Cervinia yn yr Eidal.
Dringwyd yu mynydd am y tro cyntaf ar 14 Gorffennaf, 1865, gan Edward Whymper, Charles Hudson, Yr Arglwydd Francis Douglas, Douglas Robert Hadow, Michel Croz a'r ddau Peter Taugwalder, tad a mab, ar hyd crib Hörnli ar yr ochr Swisaidd. Lladdwyd Hadow, Croz, Hudson a Douglas ar y ffordd i lawr o'r copa.
Ar hyd crib Hörnli yw'r ffordd arferol o ddringo'r mynydd. Cafodd nifer o fynyddoedd eraill ar draws y byd y llysenw "Matterhorn" am fod yn ffurf yn debyg; weithiau gelwir Cnicht yn "Matterhorn Cymru".

