Almaeneg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Almaeneg
Deutsch
Ynganiad IPA [ˈdɔʏtʃ]
Siaredir yn Yn bennaf yn Ewrop Almaeneg, fel iaith leiafrifol ac ymhlith y gwasgariad Almaeneg ledled y byd
Cyfanswm siaradwyr 90 miliwn (1990)[1] – 98 miliwn; L2: 80 miliwn (2006)[2]
Teulu ieithyddol Indo-Ewropeaidd
System ysgrifennu Lladin (Gwyddor Almaeneg)
Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn  European Union
(iaith swyddogol a lleiafrifol)

 Germany
 Austria
 Switzerland
 Liechtenstein
 Italy
(Bolzano)
 Luxembourg
 Belgium

Iaith leiafrifol gydnabyddedig yn  Czech Republic[4]
 Denmark[5]
 Hungary[6]

 Kazakhstan[7]
 Italy
(Trentino)
(siaredir gan ambell i gymuned ac fe'i hastudir ym mron bob ysgol, gan gynnwys ysgolion uwchradd)  Namibia (Iaith genedlaethol; iaith swyddogol 1984–90)[8][9]
 Poland (Iaith ategol mewn 28 bwrdeistref yn Opole Voivodeship ac un yn Silesian Voivodeship)[10]
 Romania[11]
 Russia[12]
 Slovakia (Iaith fwrdeistrefol swyddogol yn Krahule)[2][13]
 Vatican City (Iaith orchymyn a gweinyddol yng Ngwarchodlu'r Swisaidd)

Rheolir gan Nid oes rheoli swyddogol

(Rheolir yr orgraff Almaeneg gan Gyngor yr Orgraff Almaeneg (Rat für deutsche Rechtschreibung)[3]).

Codau ieithoedd
ISO 639-1 de
ISO 639-2 ger (B)  deu (T)
ISO 639-3 variously:
deu – New High German
gmh – Middle High German
goh – Old High German
gct – Alemán Coloniero
bar – Austro-Bavarian
cim – Cimbrian
geh – Hutterite German
ksh – Kölsch
nds – Low German
sli – Lower Silesian
ltz – Luxembourgish
vmf – Main-Franconian
mhn – Mócheno
pfl – Palatinate German
pdc – Pennsylvania German
pdt – Plautdietsch
swg – Swabian German
gsw – Swiss German
uln – Unserdeutsch
sxu – Upper Saxon
wae – Walser German
wep – Westphalian
Wylfa Ieithoedd 52-AC (Almaeneg Orllewinol Gyfandirol) > 52-ACB (Deutsch & Dutch) >
52-ACB-d (Almaeneg Ganolog gan gynnwys 52-ACB–dl & -dm Almaeneg Safonol) + 52-ACB-e & -f (Yr Uchel Almaeneg & Almaeneg Swisaidd) + 52-ACB-g (Iddeweg) + 52-ACB-h (gwasgariad Almaeneg. Eraill:
52-ACB-hc Almaeneg Hutterite & 52-ACB-he Almaeneg Pennsylvania ayyb) + 52-ACB-i (Yeneg); tua 285 o wahanol fathau: 52-ACB-daa hyd at 52-ACB-i
Allwedd

Oren tywyll: Siaredir yr Almaeneg fel mamiaith
Oren golau: Siaredir yr Almaeneg fel iaith leiafrifol

Mae Almaeneg (Deutsch:Loudspeaker.svg ynganiad Almaeneg ?/i ) (Uchel Almaeneg ac Isel Almaeneg) yn perthyn i gangen Germanig Orllewinol yr ieithoedd Indo-Ewropeaidd. Mae'n perthyn i'r un teulu ieithyddol â Saesneg, Iseldireg a Norwyeg.

Mae Uchel Almaeneg yn un o ieithoedd pwysicaf y byd gyda llenyddiaeth helaeth yn perthyn iddi. Almaeneg sydd â'r nifer mwyaf o siaradwyr brodorol o holl ieithoedd Ewrop (tua 100 miliwn yn 2004 neu 13.3% o'r boblogaeth).

Hanes[golygu]

Yn ystod yr Oesoedd Canol (neu yr Oesau Canol, y Canol Oesoedd) cynnar fe ddigwyddodd symudiad sain mewn rhai tafodieithoedd Germanig a elwir yn ail symudiad sain neu yn symudiad sain Uchel Almaeneg Gynnar. Gelwir y tafodieithoedd hyn, sef Alemannisch, Bairisch, Ostfränkisch, Rheinfränkisch, Mittelfränkisch, ac Ostmitteldeutsch, yn dafodieithoedd Hochdeutsch, sef Uchel Almaeneg neu Almaeneg Safonol. Ar y llaw arall, fe gyfrifir bod y tafodieithoedd na ddigwyddodd yr ail symudiad sain iddynt (neu lle na ddigwyddodd ond i raddau cyfyngedig iawn) yn perthyn i deulu Isel Almaeneg (neu Isalmaeneg), o'r cyfnod modern cynnar ymlaen.

Yr adeg honno yr ymddangosodd y gair Teutsch (Deutsch mewn Almaeneg fodern) yn y Lladin, wedi ei seilio ar y gair Germanig am 'bobl' sef thioda, thiodisk. Golygai iaith y bobl nad oeddynt yn siarad Lladin na iaith Romáwns. Bu i'r gair hŷn Fränkisch am eu hiaith eu hunain ddiflannu'n araf tua'r 9fed ganrif yn sgil y newidiadau canlynol. Ar y naill law bu i'r bobl Westfränkisch a reolai diroedd y gorllewin (a fyddai yn ddiweddarach yn Ffrainc) fabwysiadu iaith Romáwns y brodorion; ar y llaw arall roedd pobl y tiroedd dwyreiniol, yr Ostfrankenreich, yn cynnwys llwythau eraill heblaw am y Fränkisch, megis yr Alemmannen, y Bayern, y Thüringer, a'r Sachsen.

Yn ystod yr Oesoedd Canol roedd cyfundrefnau gwleidyddol tiroedd y Teutschen (y llwythau Almaenig) yn ddrylliog, pob llwyth yn mynd ei ffordd ei hun, yn wahanol i'r gwledydd cyfagos, lle y canolwyd grym gwleidyddol ynghynt (ni ffurfiwyd yr ymerodraeth Almaenig hyd 1871). Gwahanwyd y bobloedd hefyd gan fynyddoedd uchel a fforestydd trwchus. Oherwydd hyn datblygodd tafodieithoedd Almaenig am gyfnod hir ar wahân i'w gilydd gan achosi gwahaniaethau sylweddol rhwng y tafodieithoedd. Honnir y gellir gweld y cam cyntaf tuag at gysoni'r tafodieithoedd rhanbarthol yn iaith farddol beirdd yr uchelwyr adeg yr Uwch Almaeneg Ganol, tua 1200. Yn wir fe welir yn eu cerddi eu bod i ryw raddau yn osgoi defnyddio geirfa nad oedd yn gyfarwydd ymhobman na defnyddio ynganiad arbennig i un ardal, a hynny er mwyn sicrhau y byddai'r cerddi yn ddealladwy ledled y llwythau Almeinig. Eto i gyd rhaid barnu mai bach iawn oedd dylanwad y beirdd hyn a weithient yn y llys, ar adeg pan nad oedd prin neb yn llythrennog nac â'r cyfle i ymwneud â diwylliant y llys. Gellir dirnad dechreuadau Uchel Almaeneg Gyfoes ysgrifenedig a safonol yn well yn y broses o gysoni iaith rhwng y rhanbarthau a ddigwyddodd yn yr Oesoedd Canol diweddar ac ar ddechrau'r Cyfnod Modern.

Yn wahanol i fwyafrif gwledydd Ewrop, lle mae'r iaith safonol yn seiliedig ar dafodiaith y brifddinas, mae Almaeneg safonol yn deillio o ryw fath o gyfaddawd rhwng y tafodieithoedd Canol ac Uwch sy'n perthyn i'r tiroedd i'r de o'r llinell Benrather. Rhed y llinell hon yn fras trwy drefi Düsseldorf, Kassel, Magdeburg, a Berlin.

Dros gyfnod, yn enwedig yn sgil y Diwygiad Protestannaidd, fe ymdreiddiodd Uchel Almaeneg drwy ogledd yr Almaen hefyd, fel iaith ysgolion a materion swyddogol, ar draul y tafodieithoedd Isel Almaeneg (neu Isalmaeneg), sef Plattdeutsch, Niedersächsisch, a Niederfränkisch. Ond cyn hynny, yn ystod y cyfnod pan oedd y Cynghrair Hanseatig ar ei anterth (yn ystod y 14eg a'r 15fed ganrif) defnyddid Isel Almaeneg fel iaith gyffredin (neu lingua franca) o amgylch moroedd y Gogledd a'r Baltig. Mae Iseldireg hithau yn dafodiaith o'r Isel Almaeneg.

Cyfieithodd Martin Luther y Testament Newydd ym 1521 a'r Hen Destament ym 1534 i Neuhochdeutsch (Uchel Almaeneg Gyfoes) ysgrifenedig, iaith a oedd bryd hynny yn dal i ddatblygu. Oherwydd pwysigrwydd crefyddol Luther a'i Feibl fe ymdreiddiodd yr iaith a ddefnyddiodd, oedd â blas Ostmitteldeutsch (Almaeneg Canol Dwyreiniol) iddi, drwy genedlaethau lawer. O edrych yn ôl, fe welir fod cyfraniad Luther i ddatblygiad iaith ysgrifenedig safonol wedi cael ei orbwysleisio am hir amser. Ers y 14eg ganrif bu eisoes ddatblygiad graddol a lledaeniad yn nefnydd iaith ysgrifenedig wedi ei safoni rhwng y rhanbarthau, a elwid yn Frühneuhochdeutsch (Uchel Almaeneg Gyfoes Cynnar). Roedd Beibl Luther felly yn adeiladu ar seiliau a osodwyd gan lenorion cynharach. Pan gyhoeddwyd y Beibl gyntaf cafodd rhestr o eiriau ei hatodi oedd yn trosi geiriau anghyfarwydd i eiriau'r dafodiaith leol, pob ardal â'i rhestr ei hun. Parhawyd i ddatblygu iaith safonol ac erbyn yr 17eg ganrif yr oedd datblygiad iaith ysgrifenedig safonol yn gyflawn.

teip llythyren ddu 'Fraktur': s, f, k, t, x, r, y, h, v, B, V, R, N, E, G.

Yn lle mabwysiadu teip Rhufeinig tueddai'r Almaen i lynu wrth deip llythyren-ddu, yn arbennig yr amrywiadau Almaenig schwabacher a fraktur arni, ac erbyn y ddeunawfed ganrif daethpwyd i ystyried llythyren ddu, a ddefnyddiwyd gan Luther a Dürer, fel symbol o'r hunaniaeth Almaenig. Ar y dechrau fe gefnogodd y Natsïaid lythyren ddu yn hytrach na Rhufeinig, a ddefnyddiwyd i gryn raddau hefyd (yn arbennig ar gyfer llyfrau â chylchrediad rhyngwladol megis gweithiau gwyddonol; Rhufeinig a ddefnyddid ar deipiaduron), ond yn ystod yr Ail Ryfel Byd gyda golwg ar draarglwyddiaethu'r byd fe wnaethon nhw wahardd llythyren ddu gan ddisgrifio schwabacher yn gwbl gyfeiliornus fel teip

Rhifyn cyntaf y Neue Zürcher Zeitung mewn teip llythyren ddu 'Fraktur'.

Iddewig. Erbyn heddiw dim ond yn achlysurol i gyfleu naws hynafol, er enghraifft mewn hysbysebion, y defnyddir llythyren ddu, sy'n dal i fod â chynodiadau Natsïaidd.

Arferid dysgu plant ysgol sut i ysgrifennu'r llaw Rufeinig a'r llaw Othig redegog kurrentschrift at ei gilydd. Cafwyd ymgyrch aflwyddiannus ar ddechrau'r 20fed ganrif i beidio â dysgu plant ysgol i sgrifennu'r llaw kurrentschrift, a oedd yn arbennig i'r Almaen, gan ddysgu'r llaw Rufeinig yn unig iddynt. Yna ordeiniwyd i bawb ysgrifennu'r llaw Rufeinig gan y Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd a dyna fu diwedd defnydd cyffredinol kurrentschrift.

Fe rennir hanes Almaeneg yn aml yn bedwar cyfnod:

  • 750-1050: Althochdeutsch (Uchel Almaeneg Gynnar)
  • 1050-1350: Mittelhochdeutsch (Uchel Almaeneg Ganol)
  • 1350-1650: Frühneuhochdeutsch (Uchel Almaeneg Gyfoes Gynnar)
  • Ers 1650: Neuhochdeutsch (Uchel Almaeneg Gyfoes)

Cyhoeddodd Johann Christoph Adelung y geiriadur Almaeneg swmpus cyntaf yn 1781. Dechreuodd Jacob a Wilhelm Grimm y gwaith o gyhoeddi geiriadur cynhwysfawr ym 1852, gwaith nas cwblhawyd hyd 1961. Mae'r gwaith o ddiwygio'r geiriadur hwn yn mynd rhagddo.

Fe safonwyd fwyfwy ar orgraff yr Almaeneg yn ystod y 19ed ganrif. Cafwyd cam ymlaen tuag at safoni Almaeneg ysgrifenedig ym 1880 pan gyhoeddwyd Orthographischen Wörterbuch der deutschen Sprache (Geiriadur Almaeneg Orgraffyddol) gan Konrad Duden. Diwygiwyd rhyw ychydig ar hwn erbyn 1901, pan gyhoeddwyd canllawiau Almaeneg ysgrifenedig ar gyfer sefydliadau cyhoeddus. Dim ond ym 1996 y diwygiwyd orgraff yr Almaeneg unwaith eto.

Mae diwygiad sillafu 1996 yn bwnc llosg. Mae'r sillafiad diwygiedig wedi ei ddysgu mewn ysgolion ers 1996 ond heb ei dderbyn gan bawb eto, e.e. rhai papurau newydd. Mae'r newidiadau eisoes wedi eu derbyn a'u gweithredu yn ymarferol mewn llawer o wledydd Almaeneg ei hiaith. Ers 1 Awst 2005 mae'n rhaid i bawb yn yr Almaen ddefnyddio'r sillafiad diwygiedig heblaw am ddwy ardal nad ydynt wedi derbyn y sillafiad diwygiedig.

Ehangodd defnydd Uchel Almaeneg gyda thwf yr Ymerodraeth Habsbwrg. Hi oedd iaith y canolfannau gweinyddol a masnachol ar draws y tiroedd Habsbwrg hyd at ganol y 19eg ganrif, e.e. ym Mhrâg a Bwdapest, ond nid pob tref Habsbwrg a siaradai Almaeneg, e.e. arhosodd Milan yn Eidaleg ei hiaith.

Defnydd Almaeneg fel iaith swyddogol[golygu]

Yn yr Almaen mae Uchel Almaeneg yn:

  • iaith y weinyddiaeth wladol yn unol â Deddf Gweithrediad Gweinyddiaeth (Verwaltungsverfahrensgesetz).
  • iaith dogfennau notarïol yn unol â Deddf Ardystio (Beurkundungsgesetz).
  • iaith y llys yn unol â Deddf Cyfansoddiad y Llysoedd (Gerichtverfassungsgesetz).

Mae rheolau arbennig ar gyfer y lleiafrifoedd sy'n siarad Daneg yn Schleswig-Holstein a'r Sorbeg yn Brandenburg a Sachsen, ac ar gyfer siaradwyr Niederdeutsch yn rhanbarthau gogleddol yr Almaen.

Yn Awstria Almaeneg yw iaith swyddogol y wlad. Mae Croateg a Slofeneg hefyd yn ieithoedd swyddogol yn y rhanbarthau lle mae'r lleiafrifoedd hynny'n byw.

Almaeneg yw un o 20 iaith swyddogol yr Undeb Ewropeaidd ac un o ieithoedd gwaith y Cenhedloedd Unedig.

Gwledydd lle y siaredir Almaeneg[golygu]

Parth yr Almaeneg ers yr Ail Ryfel Byd. Gelwir y ffin rhwng y rhanbarthau melyn (Isel Almaeneg) a glas (Canol Almaeneg) yn llinell Benrather. Gelwir y ffin rhwng y rhanbarthau glas a brown (Uwch Almaeneg) yn llinell Speyerer.

Yn brif iaith swyddogol[golygu]

Yn iaith swyddogol ymhlith ieithoedd eraill[golygu]

Ffugdybiad yw hi bod Almaeneg ymron â chael lle iaith swyddogol yn UDA.

Yn iaith leiafrifol[golygu]

Cymunedau Almaeneg ar hyd a lled y byd

Yn ail iaith[golygu]

Mae llawer dros y byd yn dysgu Almaeneg fel ail iaith mewn ysgolion. Yn Ewrop Almaeneg sydd wedi lledaenu'r fwyaf ac eithrio'r Saesneg. Honna 38% o ddinasyddion Ewrop (heblaw am siaradwyr Almaeneg fel mamiaith) eu bod yn gallu cynnal sgwrs yn Almaeneg. Ceir niferoedd sylweddol o ddysgwyr Almaeneg yn yr Iseldiroedd, Sgandinafia, o amgylch y môr Baltig, Slofenia, Croatia, Gwlad Pwyl, Japan, Bosna-Hercegovina, ardaloedd Rwmanaidd y Swistir, Serbia, Hwngari, Montenegro, Macedonia a Bwlgaria. Yn rhai o'r gwledydd hyn Almaeneg yw'r iaith dramor gyntaf a ddysgir yn yr ysgolion, o flaen Saesneg. Yn Belarus hefyd dysgir Almaeneg yn aml mewn ysgolion. Mewn rhannau o ddwyrain Ewrop hybir dysgu Almaeneg gan ei bod yn bosibl derbyn telediad Almaeneg trwy gebl neu oddi ar loeren. Mewn gwledydd eraill, e.e. Ffrainc ac UDA, mae Almaeneg yn colli tir i'r Sbaeneg.

Yn ôl ymholiad y Ständigen Arbeitsgruppe Deutsch als Fremdsprache (Pwyllgor Gwaith Almaeneg fel Ail Iaith) sydd yn perthyn i Swyddfa Dramor yr Almaen a Sefydliad Goethe, ymhlith cyrff eraill, roedd y niferoedd mwyaf o ddysgwyr Almaeneg yn 2000 i'w cael yn y gwledydd canlynol:

Erbyn heddiw Almaeneg yw'r iaith a ddefnyddir amlaf ar y rhyngrwyd ac eithrio'r Saesneg. Mae mwy nag 8% o dudalennau'r rhyngrwyd yn Almaeneg.

Fel creoliaith[golygu]

Yn sgil gwladychu datblygodd yr iaith 'Unserdeutsch' yn yr ynysoedd a elwir heddiw yn Brydain Newydd Dwyreiniol. Erbyn hyn mae'r iaith hon ymron â diflannu gan fod mwyafrif y siaradwyr wedi mudo oddi yno. Heblaw hyn mae rhyw 150 o eiriau Almaeneg eu tarddiad i'w cael yn iaith Tok Pisin Papwa Gini Newydd.

Yr Wyddor Almaeneg[golygu]

Mae'r wyddor Almaeneg yn cynnwys 26 llythyren.

Aa, Bb, Cc, Dd, Ee, Ff, Gf, Hh, Ii, Jj, Kk, Ll, Mm, Nn, Oo, Pp, Qq, Rr, Ss, Tt, Uu, Vv, Ww, Xx, Yy, Zz

Yn ogystal â'r 26 llythyren yn yr wyddor Ladin mae Almaeneg yn defnyddio ß (eszett) a llythrennau ag 'umlaut' arnynt Ää, Öö, Üü.

Gramadeg[golygu]

Cyflwr (Fall)[golygu]

Mae enwau Almaeneg naill ai yn wrywaidd, yn fenywaidd neu yn niwtral.

  • Der Hund: y ci (gwrwyaidd)
  • Die Mutter: y fam (benywaidd)
  • Das Auto: y car (niwtral)

Caiff enwau lluosog eu creu mewn nifer o ffyrdd:

  • Gellir ychwanegu en at ddiwedd enw.
  • Gellir ychwanegu n at ddiwedd enw.
  • Gellir ychwanegu s at ddiwedd gair os daw o iaith arall, er enghraifft, Das Auto – Die Autos.
  • Gellir ychwanegu umlaut at y llafariad canol.
  • Gellir ychwanegu umlaut yn ogystal ag “en” neu "n".

Fel arfer defnyddir yr erthygl die yn y lluosog ac felly mewn ffordd mae'r lluosog yn ymddwyn fel pedwerydd cenedl.

Mae gan Almaeneg bedwar cyflwr gramadegol, er enghraifft:

  • Der Hund ist klein. – Mae'r ci yn fach. (Y cyflwr enwol, Nominativ, gan mai'r ci yw'r goddrych)
  • Ich habe den Hund. – Mae gen i'r ci. (Y cyflwr gwrthrychol, Akkusativ, gan mai'r ci yw'r gwrthrych uniongyrchol)
  • Ich gebe dem Hund den Ball. – Rwy'n rhoi'r bêl i'r ci. (Y cyflwr derbyniol, Dativ, gan mai'r ci yw'r gwrthrych anuniongyrchol)
  • Das ist das Haus des Hundes. – Dyma dŷ'r ci. (Genetiv gan fod y ci yn berchen ar y tŷ).

Trefn Geiriau (Wortstellung)[golygu]

Mae trefn y geiriau yn Almaeneg yn cynnig nifer o broblemau i ddysgwr sydd â Saesneg, Cymraeg neu'r ieithoedd Romáwns fel eu mamiaith.

Mae yna reolau caeth yn pennu trefn y berfau:

  • Mewn brawddeg Almaeneg mae'n rhaid i'r ferf fod yn yr ail syniad bob tro:

Mit meinem Bruder gehe ich in den Park. (Gyda fy mrawd, af i'r parc.)

  • Mae'r prif ferf yn dod ar ôl rhagenw fel arfer gyda gweddill y berfau yn mynd i ddiwedd yr adnod:

Ich werde in der Schule singen. (Byddaf yn canu yn yr ysgol.)

  • Mewn adnod isradd, mae'n rhaid i'r berfau i gyd fynd i ddiwedd yr adnod gyda'r ferf ffurfdroedig ar ddiwedd yr adnod:

Ich denke, dass wir die Arbeit machen müssen. (Rwy'n credu bod rhaid i ni wneud y gwaith.)

  • Os yw brawddeg yn dechrau gydag adnod isradd, mae'r berfau yn cwrdd yn y canol gyda gweddill y rheolau cyffredin yn parhau yn y brif adnod:

Da du die Arbeit gemacht hast, sehe ich dich morgen. (Gan dy fod wedi gwneud y gwaith, wela i di yfory.)

Mae disgrifiadau berfenwol yn dilyn y drefn, amser + dull + lle: Ich will Montag mit meinem Vater in dem Haus reden. (Rwy eisiau siarad gyda fy nhad yn y tŷ ar Ddydd Llun.)

Heblaw am y rheolau caeth ar safle'r ferf, mae trefn frawddeg yn weddol lac oherwydd defnydd cyflyrau enwau. Er enghraifft, mae gan y ddwy frawddeg ganlynol union yr un ystyr.

Der Hund beißt den Mann a Den Mann beißt der Hund

Mae'r ddwy frawddeg uchod yn golygu Mae'r ci yn cnoi'r dyn, ac felly yn anhebyg i nifer o ieithoedd eraill nid yw'r ystyr yn dibynnu ar drefn y geiriau ond yn hytrach ar ffurfdroadau.

Iaith lafar a thafodieithoedd Almaeneg[golygu]

Nid oes ynganiad Almaeneg safonol cyffelyb i ynganiad Saesneg y BBC. Yn ystod y 19eg ganrif bu ehangu mawr ar addysg a hynny trwy gyfrwng Uchel Almaeneg. Wrth geisio ynganu geiriau Uchel Almaeneg fe ffurfiwyd iaith lafar tra gwahanol yn y wahanol ranbarthau, yn gymysgedd o Uchel Almaeneg a thafodiaith wreiddiol yr ardal.

Ers canol yr 20fed ganrif mae'r wahanol ieithoedd llafar hyn wedi ymdreiddio tafodieithoedd traddodiadol. Fe fydd siaradwyr yn addasu eu hiaith i fod yn fwy neu yn llai tafodieithol yn ôl y galw. Ar y teledu a'r radio fe glywch y cyflwynwyr gan amlaf yn siarad Uchel Almaeneg ond gydag acen ranbarthol. Ond nid acen yw'r unig wahaniaeth rhwng yr ieithoedd llafar gan fod geirfa a chystrawen hefyd yn amrywio o un ardal i'r llall, yn enwedig rhwng gwledydd am fod pob gwlad â'i diwylliant â'i gweinyddiaeth ei hun ac yn bathu termau newydd, gwahanol i'w gilydd. Erbyn hyn ceir rhai dinasoedd yn yr Almaen ac Awstria lle mae'r dafodiaith draddodiadol wedi diflannu'n gyfan gwbl. Fe erys digon o wahaniaeth rhwng y tafodieithoedd a siaredir heddiw trwy'r tiroedd Almaenig fel bod angen is-deitlau Uchel Almaeneg ar rai ffilmiau tafodieithol o'r gwahanol ranbarthau. Mater o raid yw defnyddio Uchel Almaeneg pan fydd rhywrai sy'n hanu o ranbarthau pellenig am gael sgwrs. Mae Almaeneg y Swistir yn anodd iawn i'w deall gan Almaenwyr ac felly hefyd y tafodieithoedd Isel Almaeneg.

Bu ymdrechion i ffurfio iaith lafar safonol yn seiliedig ar Uchel Almaeneg tua diwedd y 19eg ganrif i'w defnyddio yn y theatr yn bennaf. Cyhoeddwyd canllawiau 'Ynganiad Almaeneg ar gyfer y llwyfan' ym 1898. Yr oedd ynganiad y geiriau yn gyfaddawd rhwng ynganiad y gwahanol ranbarthau ond yn ymdebygu fwyaf i ynganiad Gogledd yr Almaen. Gan fod pobl o Ogledd yr Almaen yn siarad tafodieithoedd Isel Almaeneg a oedd mor wahanol i Uchel Almaeneg, pan aethant ati i ddysgu Uchel Almaeneg roedd fel petai eu bod yn dysgu iaith wahanol. Dyfeisiasant ynganiad yn ôl y llythrennau ysgrifenedig yn hytrach na dilyn patrwm eu tafodiaith eu hunain.

Bu feirniadu ar 'iaith y llwyfan' fod ei sain yn annaturiol, ac aflwyddiannus fu'r ymdrech i ehangu'r defnydd o'r iaith hon tu allan i'r theatr. Ond pan aethpwyd ati i ysgrifennu canllawiau ynganu ar gyfer dysgwyr dilynwyd yr un trywydd â 'iaith y llwyfan' trwy gyfaddawdu rhwng y gwahanol ranbarthau ond gyda dylanwad cryf iaith y Gogledd. Gelwir hon yn Ynganiad Safonol er nad yw'n perthyn yn union gywir i neb o blith Almaenwyr.

Tafodieithoedd Almaeneg ers 1945

Fe rennir y tafodieithoedd traddodiadol yn dair prif ran, sef Uwch Almaeneg (tua'r de), Almaeneg Canol (y deilliodd Uchel Almaeneg yn bennaf ohono) ac Isel Almaeneg (tua'r gogledd). Fesul cam y gwelir newidiadau wrth symud o un ardal i ardal gyfagos, gan gynnwys yr ymdoddiad ieithyddol o diroedd Almaeneg Canol i diroedd Isel Almaeneg. Y mae'n bwnc llosg a ddylid ystyried Isel Almaeneg, sy'n cynnwys Iseldireg a Fflemeg, yn iaith ar wahân i Uchel Almaeneg. Mae rhanbarthau Hambwrg, Schleswig-Holstein, Niedersachsen, Mecklenburg-Vorpommern a Bremen wedi cael cydnabyddiaeth gan Gyngor Ewrop fod yr iaith 'Niederdeutsch' (sef y tafodieithoedd Nieder Sächsisch) yn iaith ranbarthol swyddogol. Fodd bynnag, y mae'n bosib mai marwolaeth fydd tynged y Niederdeutsch, serch yr ymdrechion gwleidyddol i'w harbed.

Yn hanesyddol mae pobl ardaloedd tafodieithol cyfagos Isel Almaeneg, o ogledd yr Almaen draw at wlad Belg a'r Iseldiroedd, yn deall ei gilydd. Yn ôl y diffiniad ieithyddiaeth felly maent yn perthyn i'r un teulu ieithyddol. Ond mae'r tafodieithoedd yn yr Iseldiroedd a'r Almaen yn tyfu fwyfwy ar wahân trwy fod ffin wleidyddol rhyngddynt. Hefyd mae llawer o'r tafodieithoedd Isel Almaeneg yn colli tir i Iseldireg neu Almaeneg Safonol, a rhai ohonynt bron â bod yn farw. Trwy'r broses hon gellir gweld ffin ieithyddol yn ymddangos rhwng Iseldireg ac Almaeneg.

Dylanwadau ieithoedd tramor ar Almaeneg[golygu]

Gan fod siaradwyr Almaeneg yn byw yng Nghanolbarth Ewrop y mae Almaeneg wedi dylanwadu arni drwy'r canrifoedd gan ieithoedd eraill. Yn ystod yr Oesoedd Canol ac ynghynt cafwyd benthyg geiriau o'r Lladin yn bennaf. Benthycwyd geiriau o'r Lladin yn ymwneud â phensaernïaeth, crefydd, a rhyfela, ymhlith pynciau eraill, e.e. Fenster (ffenestr), Keller (seler), Karren (cert), dominieren (goruchafu), Kloster (mynachlog). Cafwyd benthyg hefyd o'r Groeg ym meysydd crefydd, gwyddoniaeth, ac athroniaeth, e.e. Philiosphie (athroniaeth), Physik (Ffiseg), Demokratie (democratiaeth).

Yn ddiweddarach Ffrangeg oedd yr iaith fwyaf dylanwadol ar Almaeneg. Ffrangeg a siaredid mewn llawer lys wedi'r Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain, a ddaeth i ben ym 1648. Mae'n debyg bu afael gwell gan Dywysogion Prwsia ar Ffrangeg nag ar Almaeneg. Gan hynny codwyd geirfa helaeth yn ymwneud â byd y boneddigion o'r Ffrangeg, e.e. Boulevard (rhodfa), Trottoir (palmant), Konfitüre (jam). Benthycwyd i raddau llai o'r ieithoedd Slafaidd, e.e. Grenze (ffin), Pistole (llawddryll), o'r Iddew-Almaeneg a Rotwelsch, e.e. meschugge (yn wirion bost).

Gwelir dylanwad Arabeg ym meysydd masnach, botaneg, a meddygaeth, dylanwad oedd ar ei anterth yn ystod yr Oesoedd Canol, gan gynnwys adeg y croesgadau, e.e. Koffer (cist), Benzin (petrol), Limonade (lemonêd).

Ers canol yr 20fed ganrif mae Saesneg wedi dylanwadu fwyfwy ar Almaeneg. Mae'r datblygiad hwn yn ddadleuol. Achwynir bod llawer o'r geiriau benthyg ffug-Saesneg, e.e. Handy (ffôn symudol) yn disodli geiriau cyfystyr Almaeneg sy'n bodoli eisioes neu y gellid fod wedi bathu geiriau â gwreiddiau Almaeneg. Erbyn hyn mae ffilmiau wedi eu trosleisio'n wael o'r Saesneg hefyd yn dylanwadu ar Almaeneg. Er mwyn cadw cydwefusiad ar ffilmiau Saesneg (ac oherwydd anwybodusrwydd) fe greir geiriau ac ymadroddion nad ydynt yn gyfarwydd yn Almaeneg ond sydd ar fyr dro yn ymgartrefu yn yr iaith lafar, e.e. Oh mein Gott am 'Oh my God' Saesneg, yn hytrach na'r ymadrodd draddodiadol Um Gottes Willen. Fe elwir yr iaith sydd yn gymysgedd o Almaeneg a Saesneg yn Denglish.

Mewn llawer o wledydd, e.e. Ffrainc a Gwlad yr Iâ, ceir ymdrechion gwleidyddol i arbed yr iaith frodorol rhag ymdreiddiad o du'r Saesneg. Nid felly y mae hyn yn yr Almaen am fod cymaint o ofn unrhyw bolisïau sy'n debyg i bolisïau'r Natsïaid. Mae eraill yn collfarnu ymdrechion o'r fath gan eu cyfrif yn buryddiaeth ieithyddol afiach.

Dylanwad Almaeneg ar ieithoedd eraill[golygu]

Mae llawer o eiriau wedi eu benthyg o'r Almaeneg i ieithoedd eraill, gan gynnwys Saesneg. Tardda trwch y geiriau benthyg o ddyfeisiadau Almaenig, o adeg y rhyfeloedd byd, neu o'r ymfudwyr i UDA a siaradent Almaeneg neu Iddew-Almaeneg. Enghreifftiau o'r geiriau benthyg yma yw:

  • Abseilen
  • Angst
  • Blitzkrieg
  • Eisberg (rhewfryn)
  • Doppelgänger (rhywun o'r un ffunud ac un arall)
  • Glockenspiel
  • Glitz
  • jodeln (iodlo)
  • kaputt (wedi torri)
  • Kindergarten
  • Kitsch
  • Müsli
  • Rucksack
  • Schadenfreude (ymhyfrydu yn nhrafferthion rhywrai arall)
  • Vorsprung durch Technik (cam ymlaen trwy dechnoleg)
  • Waltz
  • Wunderkind (plentyn rhyfeddol)
  • Zigzag (igam ogam)
  • Zeppelin

Diwylliant Almaeneg[golygu]

Llenyddiaeth Almaeneg[golygu]

Mae'r Almaeneg ysgrifenedig gynharaf sydd wedi goroesi yn dyddio o'r 8fed ganrif, ar ffurf llawysgrifau eglwysig a nodiadau ymyl y ddalen mewn llawysgrifau Lladin. Yng nghanol y 12fed ganrif fe ledodd cwmpas llenyddiaith Almaeneg tu allan i'r byd eglwysig. Aethpwyd ati i ysgrifennu llawer o ganeuon a chwedlau o dan nawdd yr uchelwyr. Gwelir dylanwad Ffrengig ar lenyddiaeth yr Almaen yn dechrau'r adeg hon, dylanwad a fyddai'n parhau am ganrifoedd. Enghreifftiau o'r canu hwn yw Rolandslied (cân Roland), Tristan und Isold (Tristan ac Esyllt), Parzival (Parsifal) a'r Niebelungenlied.

Fel ag yn Gymraeg bu cyhoeddi'r Beibl yn Almaeneg, ym 1522 a 1534, yn garreg filltir bwysig yn natblygiad yr iaith safonol yn ogystal ag yn natblygiad yr Eglwys Gristnogol.

Mae llenyddiaeth helaeth wedi ei chyhoeddi yn Almaeneg ar hyd yr oesoedd. Ymhlith y llyfrau mwyaf enwog y mae:

Bu'r Holocawst yn ysgogiad i lenyddiaeth a ffilmiau. Gellir enwi gwaith y beirdd Iddewig Paul Celan, yn arbennig ei gerdd enwog Todesfuge, a Nelly Sachs yn y cyswllt hwn. Datblygiad diweddar yw trafod dyddiau olaf y Trydydd Reich o safbwynt Hitler a'i staff yn y ffilm Der Untergang, ac yn y gyfres deledu Heimat dylunnir bywyd bob-dydd yn ystod yr 20fed ganrif wrth i'r Almaenwyr geisio dod i delerau â'u hanes. Mae nifer o lyfrau Almaeneg wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg.

Almaeneg mewn cerddoriaeth[golygu]

Ar draws Ewrop, yn sgil y Diwygiad Protestannaidd, dechrewyd cyfansoddi cerddoriaeth grefyddol gan ddefnyddio testunau yn yr iaith leol yn hytrach na Lladin, e.e. gweithiau J.S. Bach ar ddechrau'r 18fed ganrif. Yn ddiweddarach dechrewyd cyfansoddi cerddoriaeth glasurol ar bynciau seciwlar. Pan gyfansoddodd Mozart Die Zauberflöte (y Ffliwt Hud) ym 1791, Eidaleg oedd cyfrwng arferol operâu. Bwriad Mozart wrth ddefnyddio testun Almaeneg oedd apelio at werin Fienna yn ogystal â'r byddigion, gan fod yr opera yn ymdrin ag Urdd y Seiri Rhyddion, yr oedd Mozart yn aelod ohoni. Yn ystod y 19eg ganrif defnyddiwyd y chwedlau Almaeneg o'r Oesoedd Canol mewn operâu, gan gynnwys operâu Wagner. Bu cyfansoddwyr Almaeneg yn arloeswyr canu clasurol y 19eg ganrif a elwir heddiw yn ganu 'Lieder' (sef 'caneuon' yn Almaeneg). Yn eu plith roedd Franz Schubert, Robert Schumann, a Johannes Brahms.

Dysg Almaeneg[golygu]

Tyfodd bri a dylanwad prifysgolion y gwledydd Almaeneg eu hiaith yn gyflym yn ystod y 19eg ganrif. Erbyn y 1870au roedd Almaeneg wedi disodli Lladin fel prif iaith addysg prifysgolion Ewrop. Câi Almaeneg ei defnyddio mewn meddygaeth yn nwyrain Asia yn hytrach na Lladin. Ym meysydd ieithyddiaeth, athroniaeth, hanes, a gwyddoniaeth, ymhlith eraill, yr oedd siaradwyr Almaeneg a phrifysgolion Almaenig ar flaen y gad academaidd. O'r herwydd ymddangosodd nifer fawr o weithiau pwysig y byd yn Almaeneg gan gynnwys:

  • Das Kapital (Cyfalaf) gan Karl Marx (1867)
  • Die Traumdeutung (Dehongli breuddwydion) gan S. Freud (1899)
  • Drei Abhandlungen zur Sexualtheorie (3 Thraethawd ar elfennau rhywioldeb) gan S. Freud (1904-05)
  • Das Unbehagen in der Kultur (Anniddigrwydd mewn gwareiddiad) gan S. Freud (1929)
  • Zur Elektrodynamik bewegter Körper (Ar electrodeinameg cyrff symudol) gan A. Einstein yn Annalen der Physik cyf. 17, 1905
  • Ist die Trägheit eines Körpers von seinem Energieinhalt abhängig? (Ydy inertia corff yn dibynnu ar yr ynni sydd ynddo?) gan A. Einstein yn Annalen der Physik (cyf. 18, 1905)
  • Die Grundlage der allgemeine Relativitätstheorie (Sylfaen y theori perthynoledd cyffredinol) gan A. Einstein yn Annalen der Physik (cyf 49, 1916)
  • Über die spezielle und allgemeinen Relativitätstheorie (Ynglŷn â theori perthynoledd arbennig a chyffredinol) gan A. Einstein (1916).

Ffilm Almaeneg[golygu]

Ymddangosodd y ffilm hir sain Almaeneg gyntaf ym 1929, sef Melodie der Welt (Cân y byd). Ymddangosodd ffilmiau sain Almaeneg byd-enwog yn ystod y cyfnod sain cynnar, gan gynnwys ffilm gyntaf Marlene Dietrich Der Blaue Engel (Yr angel glas – 1930), Berlin Alexanderplatz (1931), ac M (1931). Pan ddaeth y Natsïaid i rym, buan y collwyd gwneuthurwyr ffilm mwyaf dawnus yr Almaen. Cynhyrchwyd nifer fawr o ffilmiau Almaeneg yn ystod cyfnod y Natsïaid, gan fod y sinema yn hynod boblogaidd yn yr Almaen, serch neu yn hytrach oherwydd tlodi enbyd y bobl, ond prin yw'r ffilmiau y bernir eu bod yn bwysig erbyn heddiw. Wedi'r Ail Ryfel Byd cafwyd rhywfaint o adfywiad mewn ffilmiau Almaeneg eu hiaith, ond nid tan y 60au y cafodd sinema Almaeneg sylw rhyngwladol eto. Yn ystod y 70au y gwelwyd ffilmiau y Neues Deutsches Kino (y Sinema Almaenig Newydd) yn cael sylw a chlod beirniadol, yn eu plith Aguirre, der Zorn Gotte (Aguirre, digofaint Duw - 1972), Angst essen Seele auf (Ofn a lynca'r enaid – 1974) a Die Ehe der Maria Braun (Priodas Maria Braun – 1979). Yn ddiweddar iawn mae nifer o ffilmiau wedi ymddangos yn trin cyfnod y Natsïaid gan gynnwys Das Schreckliches Mädchen (Y ferch ddychrynllyd - 1989), Der Untergang (Y dymchwel - 2004), a Sophie Scholl – die Letzten Tage (Sophie Scholl – y dyddiau olaf - 2005).

Enwau ar Almaeneg mewn ieithoedd eraill[golygu]

Oherwydd bod hanes y pobloedd sy'n siarad Almaeneg wedi bod mor gythryblus mae llawer rhagor o wahanol ffurfiau ar y gair 'Almaeneg' mewn ieithoedd tramor nag sydd i'r mwyafrif o ieithoedd y byd.

Yn gyffredinol gellir dosbarthu'r gwahanol dermau am Almaeneg yn ôl eu tarddiad i chwech grŵp sef:

  1. O'r term protogermanaidd Volk (pobl)
  2. O enw llwyth y Germaniaid
  3. O enw llwyth y Sacsoniaid
  4. O'r gair Slafaidd am 'fud'
  5. O enw llwyth yr Alemaniaid
  6. Yn ieithoedd y Baltig

Cyfeirnodion[golygu]

Ffynonellau[golygu]

Ysgriflythrennau a llawysgrifen[golygu]

  • Black letter: type and national identity, goln Peter Bain a Paul Shaw (New York, 1998)
  • S. H. Steinberg, Five hundred years of printing, (Harmondsworth, 1966, 1996)
  • D. B. Updike, Printing types: their history, form and use (Oxford University Press, 1952)

Ystadegau siaradwyr[golygu]

Ar bapur[golygu]

  • Geiriadur Almaeneg-Cymraeg a Chymraeg-Almaeneg (Y Ganolfan Astudiaethau Addysg, Prifysgol Cymru Aberystwyth, 1999).

Ar y we[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

Wikipedia
Argraffiad Almaeneg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am Almaeneg
yn Wiciadur.