Martin Luther
Oddi ar Wicipedia
Offeiriad, diwinydd a diwygiwr eglwysig o'r Almaen oedd Martin Luther (10 Tachwedd 1483 - 18 Chwefror 1546), a aned yn Eisleben. Ef fu'n gyfrifol am symbylu y Diwygiad Protestanaidd.
Roedd yn gwrthwynebu'n gryf yr honiad y gellid prynu achubiaeth o gosb Duw gan arian. Roedd Luther yn dysgu nad oedd iachawdwriaeth i'w gael drwy weithredoedd da ond i'w gael yn unig drwy ras Duw a ffydd yn Iesu Grist fel Iachawdwr. Roedd ei ddiwinyddiaeth yn herio awdurdod y Pab wrth ddysgu mai'r Beibl yw unig ffynhonell datguddiad dwyfol.
Cyfieithodd Martin Luther y Beibl (y Testament Newydd ym 1521 a’r Hen Destament ym 1534) i Neuhochdeutsch (Uchel Almaeneg Gyfoes) ysgrifenedig, iaith a oedd bryd hynny yn dal i ddatblygu.
[golygu] Dolenni allanol
[golygu] Gweler hefyd