Brandenburg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Brandenburg

Un o daleithiau ffederal yr Almaen yw Brandenburg. Saif yn nwyrain y wlad, ac roedd y boblogaeth yn 2007 yn 2,537,800. Prifddinas y dalaith yw Potsdam. Mae'r dalaith yn amgylchynu Berlin, ond nid yw'r ddinas yn rhan o dalaith Brandenburg.

Mae'n un o'r taleithiau newydd a grewyd yn 1990 wedi ad-uno'r Almaen. Ar un adeg, roedd Marcgrafiaeth Brandenburg yn wladwriaeth annibynnol, a ddatblygodd i fod yn gnewyllyn Prwsia. Daeth tua thraean o'r Bandenburg hanesyddol yn rhan o Wlad Pwyl yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Ffinia'r dalaith ar Wlad Pwyl yn y dwyrain, gydag afon Oder yn ffurfio rhan o'r ffîn. Mae afon Elbe yn ffurfio rhan o ffîn y dalaith yn y gorllewin.



Taleithiau ffederal yr Almaen Baner yr Almaen
Baden-Württemberg | Bafaria | Berlin | Brandenburg | Bremen | Hamburg | Hessen | Mecklenburg-Vorpommern | Niedersachsen | Nordrhein-Westfalen | Rheinland-Pfalz | Saarland | Sachsen | Sachsen-Anhalt | Schleswig-Holstein | Thüringen