Schleswig-Holstein

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Schleswig-Holstein

Un o daleithiau ffederal yr Almaen yw Schleswig-Holstein. Saif yng ngogledd y wlad, yn ffinio ar Denmarc yn y gogledd. Roedd y boblogaeth yn 2007 yn 2,283,702. Kiel yw prifddinas y dalaith.

Ffurfiwyd y dalaith o Ddugiaeth Holstein yn y de a De Schleswig yn y gogledd. Rhannwyd Dugiaeth Schleswig rhwng yr Almaen a Denmarc. Mae'r dalaith yn cynnwys Ynysoedd Gogledd Ffrisia, sy'n ffurfio rhan o Barc Cenedlaethol Môr Wadden, ac ynys Heligoland. Yr afonydd pwysicaf yw afon Elbe ac afon Eider; tra mae Camlas Kiel yn cysylltu Môr y Gogledd a'r Môr Baltig.

Siaredir Ffriseg a Daneg mewn rhannau o'r dalaith. Mae hen ddinas Lübeck yn Safle Treftadaeth y Byd.



Taleithiau ffederal yr Almaen Baner yr Almaen
Baden-Württemberg | Bafaria | Berlin | Brandenburg | Bremen | Hamburg | Hessen | Mecklenburg-Vorpommern | Niedersachsen | Nordrhein-Westfalen | Rheinland-Pfalz | Saarland | Sachsen | Sachsen-Anhalt | Schleswig-Holstein | Thüringen