Nordrhein-Westfalen
Un o daleithiau ffederal (Länder) yr Almaen yw Nordrhein-Westfalen (yn llythrennol 'Gogledd Rhein a Westfalen'). Fe'i lleolir yng ngorllewin canolbarth y wlad, ar y ffin â'r Iseldiroedd a Gwlad Belg. Mae'n cynnwys nifer o ddinasoedd mawr, gan gynnwys Düsseldorf, prifddinas y dalaith, Cwlen, ei dinas fwyaf, Aachen, Bielefeld, Bonn, Bochum, Essen, Dortmund, Duisburg, Gelsenkirchen, Münster, Oberhausen, Paderborn a Wuppertal.
Daearyddiaeth [golygu]
Mae Nordrhein-Westfalen yn cynnwys rhan ogleddol y Rheinland (Nordrhein) ac ardal Westfalen. Mae Afon Rhein ei hun yn rhannu'r ddwy ardal oddiwrth ei gilydd, Nordrhein yn y gorllewin, a Westfalen yn y dwyrain. Canol y dalaith yw ardal ddiwydiannol y Ruhr.
Hanes [golygu]
Crewyd y dalaith gan y weinyddiaeth filwrol Brydeinig ym 1946 allan o rhan ogleddol yr hen Rheinprovinz (Talaith y Rhein) a thalaith Westfalen. Daeth y dalaith newydd â holl ardaloedd y Ruhr at ei gilydd. Gan fod y dalaith newydd o fewn parth meddiannol Prydain, roedd hyn yn sicrhau rheolaeth Prydain dros ardal ddiwydiannol fwya'r Almaen. Ychwanegwyd hen dalaith Lippe ati ym 1947. Mae'r ffiniau wedi aros yr un ers hynny.
| Taleithiau ffederal yr Almaen | |
|---|---|
| Baden-Württemberg | Bafaria | Berlin | Brandenburg | Bremen | Hamburg | Hessen | Mecklenburg-Vorpommern | Niedersachsen | Nordrhein-Westfalen | Rheinland-Pfalz | Saarland | Sachsen | Sachsen-Anhalt | Schleswig-Holstein | Thüringen | |