Afon Rhein

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Rhein

Afon 1234 km o hyd yn Ewrop yw'r Afon Rhein (Almaeneg: Rhein, Iseldireg: Rijn, Ffrangeg: Rhin, Lladin: Rhenus). Mae'n tarddu yn yr Alpau ac yn llifo tua'r gogledd i gyrraedd Môr y Gogledd. Credir fod yr enw yn dod o'r gair Indo-Ewropeaidd *rei, yn golygu "llifo".

Gellir defnyddio llongau ar 883 km o'i hyd, ac o'r herwydd mae o bwysigrwydd economaidd mawr. Mae'n llifo trwy'r Swistir, Awstria, yr Almaen a'r Iseldiroedd, ac yn ffurfio'r ffîn rhwng un neu fwy o'r gwledydd hyn â Ffrainc a Liechtenstein.

Mae dalgylch y Rhein yn 198,735 km², yn cynnwys y cyfan o Luxembourg a thannau llai o Wlad Belg a'r Eidal yn ogystal a'r gwledydd uchod.

Daearyddiaeth[golygu]

Y Swistir[golygu]

Y Vorderrhein

Ceir tarddle'r Rhein yng nghanton Graubünden yn y Swistir, lle mae dwy afon yn tarddu yn yr Alpau, y Vorderrhein a'r Hinterrhein. Tardda'r Vorderrhein o Lyn Tuma ger Bwlch Oberalp, tra mae'r Hinterrhein yn tarddu yn rhewlif Paradies ger y Rheinquellhorn ger ffîn ddeheuol y Swistir. Mae un o'r nentydd sy'n ffurfio'r Hinterrhein yn tarddu yn y Val di Lei yn yr Eidal.

Mae'r Vorderrhein a'r Hinterrhein yn cyfarfod ger Reichenau, yn dal yng nghanton Graubünden, i ffurfi afon Rhein, a elwir yr Alpenrhein yn y rhan yma. Llifa'r afon tua'r gogledd heibio Chur, ac mae'n ffurfio'r ffîn rhwng y Swistir a Liechtenstein, ac yna ag Awstria, gyda chanton St. Gallen ar y lan Swisaidd. Llifa i mewn i'r Bodensee, yna wedi gadael y llyn, mae'n llifo tua'r gorllewin fel yr Hochrhein. Ffurfia Raeadr y Rhein, cyn i afon Aare ymuno a hi, gan fwy na dyblu ei llif. Ffurfia'r ffîn rhwng y Swistir a'r Almaen cyn troi tua'r gogledd ger Basel.

Yr Almaen[golygu]

Pont y Nibelungen dros y Rhein yn Worms.

O Basel ymlaen, adwaenir yr afon fel yr Oberrhein. Mae'n llifo tua'r gogledd, gan ffurfio'r ffîn rhwng Ffrainc a'r Almaen. Llifa heibio dinas Strasbourg, cyn llifo i mewn i'r Almaen a thrwy dalaith ffederal Rheinland-Pfalz. Ger Mannheim mae afon Neckar yn ymuno a hi, yna afon Main gerllaw Mainz.

Afon Rhein (Assmannshausen / Rüdesheim 2008)

Ger Bingen mae'r Mittelrhein yn dechrau. Llifa'r afon trwy ddyffryn cul, gyda mynyddoedd yr Hunsrück a'r Eifel ar yr ochr chwith. Ger Koblenz mae afon Moselle ac afon Lahn yn ymuno a hi. Mae tyfu gwinwydd a thwristiaeth yn bwysig yn yr ardal yma, ac mae'r rhan rhwng Rüdesheim a Koblenz yn Safle Treftadaeth y Byd. Ger St. Goarshausen mae'r Rhein yn llifo heibio Craig y Lorelei.

Ger Bonn mae afon Sieg yn ynuno a'r Rhein, a elwir yn awr y Niederrhein. Mae'r ardal yma yn un boblog a diwydiannol iawn. Llifa'r afon heibio Cwlen, Düsseldorf ac Ardal y Ruhr. Y porthladd pwysicaf yw Duisburg.

Yr Iseldiroedd[golygu]

Ymraniad dyfroedd y Rhein ger Arnhem a Nijmegen yn yr Iseldiroedd

Mae'r afon yn awr yn cyrraedd yr Iseldiroedd, lle mae'n ffurfio delta mawr gydag afon Meuse ac afon Scheldt. Ceir rhwydwaith cymhleth o afonydd a chamlesi yma. Ychydig i'r dwyrain o Nijmegen ac Arnhem mae'r Rhein yn ymrannu'n ddwy gangen, afon Waal a'r Pannerdensch Kanaal. Mae dwy ran o dair o'r dŵr yn llifo i afon Waal, yna trwy'r Merwede a'r Nieuwe Merwede cyn ymuno a'r Meuse ac ymlaen i'r môr. Mae'r Beneden Merwede yn gadael y brif afon i barhau fel afon Noord, yna'n ymuno ag afon Lek i ffurfio'r Nieuwe Maas, sy'n llifo heibio Rotterdam i'r môr. Mae'r Oude Maas yn gadael y brif afon ger Dordrecht, cyn ail-ymuno a'r Nieuwe Maas i ffurfio Het Scheur.

Llifa'r traean arall o'r dŵr trwy'r Pannerdensch Kanaal, sy'n llifo i mewn i ddwy afon, y Nederrijn ("Rhein isaf") a'r IJssel. Llifa'r Nederrijn tua'r gorllewin, gan ddiweddu gerllaw Wijk bij Duurstede; oddi yno gelwir y brif afon yn Afon Lek, sy'n ymuno ag afon Noord. Llifa'r dŵr yn afon IJssel i'r gogledd-ddwyrain i mewn i'r IJsselmeer.

Defnyddir yr enw Rijn am nifer o afonydd sy'n llifo tua'r gorllewin o Wijk bij Duurstede, y Kromme Rijn ("Rhein Gam"), yna heibio Utrecht, y Leidse Rijn a'r Oude Rijn. Yn y cyfnod Rhufeinig, y rhain oedd prif afonydd delta'r Rhein, ond bellach nid o'r Rhein y maent yn cael eu dyfroedd.

Hanes a chwedloniaeth[golygu]

Y Rhein a chraig y Lorelei

Hanes[golygu]

Ceir cyfeiriadau niferus ar afon Rhenus yn y cyfnod clasurol. Ystyrid mai'r Rhein oedd y ffîn rhwng Gâl neu'r Celtiaid a'r Almaenwyr. Am gyfnod yn nheyrnasiad yr ymerawdwr Augustus, bu'r fyddin Rufeinig yn ymgyrch i'r dwyrain o'r Rhein, ond wedi i'r cadfridog Varus gael ei orchfygu gan Arminius ym Mrwydr Fforest Teutoburg, daeth y Rhein yn ffîn yr Ymerodraeth Rufeinig. Cedwid wyth lleng ar hyd y Rhein. Rhwng tua 14 OC a 180, roedd dwy leng yn Vetera (Xanten heddiw): I Germanica a XX Valeria; dwy leng yn oppidum Ubiorum (Cwlen heddiw):V Alaudae a XXI. Roedd un lleng, II Augusta, yn Argentoratum (Strasbourg), ac un, XIII Gemina, yn Vindonissa (Windisch), gyda dwy leng, XIV a XVI, yn Moguntiacum (Mainz).

Yn ddiweddarach, bu ymryson rhwng yr Almaen a Ffrainc, oedd yn dymuno cipio'r tiriogaethau Almaenig ar lan orllewinol y Rhein, a sefydlu'r afon fel y ffîn. Yn ystod un cyfnod o dyndra oherwydd hyn, yn 1840, cyfansoddwyd y gân wladgarol Almaeneg Die Wacht am Rhein ("Y Wyliadwriaeth ar y Rhein"), a ddaeth yn anthem genedlaethol de facto yr Almaen am gyfnod.

Chwedloniaeth[golygu]

Yn y gerdd Nibelungenlied o'r Canol Oesoedd, ceir hanes yr arwr Siegfried sy'n lladd draig ar y Drachenfels ger Bonn ac am drysor Kriemhild a deflir i'r Rhein gan Hagen. Ysbrydolodd yr hanes yma yr opera Das Rheingold, rhan gyntaf cylch Der Ring des Nibelungen gan Richard Wagner.

Ceir hanesion am graig y Lorelei, lle mae'r afon yn culhau gan greu man peryglus i longau. Dywedir bod un o'r Nixe, ysbrydion y dŵr ar ffurf merch ieuanc brydferth, yn eistedd ar y graig ac yn canu. Roedd hyn yn swyno'r llongwyr nes i'w llongau daro yn erbyn y creigiau a chael eu dinistrio. Defnyddir yr hanes yng ngerdd enwog Heinrich Heine.