Ludwigshafen
Oddi ar Wicipedia
Dinas yn nhalaith ffederal Rheinland-Pfalz yng ngorllewin yr Almaen yw Ludwigshafen, yn llawn Ludwigshafen am Rhein. Saif ar lan afon Rhein, gyferbyn a Mannheim. Roedd y boblogaeth yn 163,560 yn 2007.
Ludwigshafen yw pencadlys BASF, cwmni cemegol mwyaf y byd.
Pobl enwog o Ludwigshafen[golygu]
- Helmut Kohl, cyn-ganghellor yr Almaen
- Ernst Bloch, athronydd