Freiburg im Breisgau
Oddi ar Wicipedia
Dinas yn nhalaith Baden-Württemberg yn yr Almaen a chanolfan hanesyddol ardal Breisgau yw Freiburg im Breisgau. Roedd y boblogaeth yn 217,548 yn 2006.
Saif Freiburg gerllaw'r Fforest Ddu, ac heb fod ymhell o'r ffîn gyda Ffrainc a'r Swisdir. Ceir prifysgol adnabyddus yno, Prifysgol Albert Ludwigs, Freiburg. Sefydlwyd y brifysgol ym 1457 gan Weriniaeth Hapsburg a dyma oedd yr ail brifysgol ar ôl Prifysgol Fienna yn nhiriogaeth Austriaidd-Habsburg.