Mainz

Oddi ar Wicipedia
Mainz
Mathdinas fawr, tref goleg, bwrdeistref trefol yr Almaen, urban district of Rhineland-Palatinate, prifddinas talaith yr Almaen Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAfon Main, Mogons Edit this on Wikidata
Poblogaeth220,552 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Pennaeth llywodraethNino Haase Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolQ22117180 Edit this on Wikidata
SirRheinland-Pfalz Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Almaen Yr Almaen
Arwynebedd97.73 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr89 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Rhein, Afon Main Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaMainz-Bingen, Wiesbaden, Groß-Gerau Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau49.9994°N 8.2736°E Edit this on Wikidata
Cod post55116–55131 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethNino Haase Edit this on Wikidata
Map

Dinas yn ne-orllewin yr Almaen a phrifddinas talaith ffederal Rheinland-Pfalz yw Mainz (Ffrangeg: Mayence). Saif ar afon Rhein, gyferbyn a'r fan lle mae afon Main yn ymuno â hi. Roedd y boblogaeth yn 2007 yn 200,234.

Sefydlwyd caer Rufeinig Moguntiacum yma gan y cadfridog Drusus tua 13 CC. Datblygodd yn dref a chanolfan filwrol bwysig ac yn brifddinas talaith Germania Superior.

Cipiwyd y ddinas gan yr Alamanni yn 368 a chan y Fandaliaid ac eraill yng ngaeaf 406, pan rewodd afon Rhein a'u galluogi i groesi. Daeth Sant Boniface yn Archesgob cyntaf Mainz tua chanol yr 8g. Yn y Canol Oesoedd roedd Archesgobion Mainz yn bwerus iawn, ac yn cael eu hystyried yn ddirprwyon y Pab i'r gogledd o'r Alpau. Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, meddiannwyd Mainz gan fyddin Ffrainc rhwng 1919 a 1930.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod]

  • Amgueddfa Gutenberg
  • Eglwys Gadeiriol Sant Martin
  • Eglwys San Steffan
  • Kurfürstliches Schloss (palas)

Pobl enwog o Mainz[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am yr Almaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.