Dinas yng ne-orllewin yr Almaen a phrifddinas talaith ffederal Saarland yw Saarbrücken. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 180,515. Saif y ddinas ar afon Saar.
Ar un adeg roedd y diwydiant glo a diwydiannau cysylltiedig yn bwysig yma, ond bellach mae pwysigrwydd diwydiannol yr ardal wedi lleihau.