Afon Saar
Oddi ar Wicipedia
Afon Saar: y tro yn ei chwrs yn Saarland a elwir yn Saarschleife
Afon yng ngorllewin Ewrop sy'n llifo trwy rannau o Ffrainc a'r Almaen yw Afon Saar (Ffrangeg: Sarre). Ei hyd yw 240 km (149 milltir).
Gorwedd tarddle Afon Saar ym mryniau y Vosges yng ngogledd-ddwyrain Ffainc. Oddi yno mae hi'n llifo ar gwrs i gyfeiriad y gogledd yn gyffredinol i'r Almaen ac yna i gyfeiriad y gogledd-orllewin trwy dalaith Saarland i'w chymer ar Afon Moselle ger Trier.
Mae glannau'r afon yn Saarland yn enwog am ei gwinllanoedd sy'n cynhyrchu gwin gwyn o safon uchel.
Dolenni allanol[golygu]
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: