Trier

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Dinas hanesyddol yng ngorllewin talaith Rheinland-Pfalz yn Yr Almaen yw Trier (Lwcsembwrgeg: Tréier, Ffrangeg: Trèves). Mae Trier yn ganolfan weinyddol Landkreis Trier-Saarburg a Verbandsgemeinde Trier-Land. Mae gan Trier brifysgol, coleg polytechneg ac eglwys gadeiriol hanesyddol (Esgobaeth Trier).

Sefydlwyd y ddinas mwy na 2000 blynedd yn ôl â'r enw Augusta Treverorum (Treveris o ail hanner y 3edd ganrif ymlaen). Trier felly yw dinas hynaf yr Almaen.

Mae'r Trier Rufeinig, yn cynnwys yr Amffitheatr, Baddonau Barbara, Baddonau'r Ymerawdwr, Basilica Cystennin, Colofn Igel, Porta Nigra a'r Bont Rufeinig ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO.

Flag Germany template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am yr Almaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.