Dresden
Oddi ar Wicipedia
Ddinas hanesyddol yn nwyrain yr Almaen a phrifddinas talaith ffederal Sachsen yw Dresden.
Yn ystod y 18fed ganrif datblygodd diwydiant gwaith porslen pwysig yn y ddinas ac yn ei chyffiniau, a daeth yr enw Dresden yn gyfystyr â phorslen. Cafodd ei bomio'n drwm gan lu awyr Prydain yn yr Ail Ryfel Byd.
Cafwyd llifogydd trwm yno ym mis Awst 2002[1].

