Coventry
Oddi ar Wicipedia
Ar wal y gadeirlan newydd: St Michael's Victory over the Devil, cerflun gan Syr Jacob Epstein.
Mae Coventry yn ddinas ac yn fwrdeisdref fetropolitaidd yn Ngorllewin Canolbarth Lloegr. Gyda phoblogaeth o 303,475 yng nghyfrifiad 2001 (amcangyfrifir 306,000 yn 2007), Coventry yw'r 9fed ddinas fwyaf yn Lloegr a'r 11eg fwyaf yn y Deyrnas Unedig. Dyma'r ail ddinas fwyaf yng Nghanolbarth Lloegr yn ôl poblogaeth ar ôl Birmingham.
Mae'n enwog am ei eglwys gadeiriol a ailadeiladwyd ar ôl cael ei dinistrio'n llwyr bron yn y Blitz.
Mae ganddi ddwy brifysgol, Prifysgol Coventry yng nghanol y ddinas a Phrifysgol Warwick ar gyrion deheuol y ddinas.
[golygu] Adeiladau a chofadeiladau
- Arc Whittle
- Canolfan Alan Higgs
- Dinas Y Lunt
[golygu] Enwogion
- Ellen Terry (1847-1928), actores
- Syr Frank Whittle (1907-1996), peiriannydd
- Ivor Preece (1920-1987), chwaraewr rygbi
- Philip Larkin (1922-1985), bardd