Arglwyddes Godiva

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Paentiad olew o'r Arglwyddes Godifa gan John Cole, tua 1898.

Un o uchelwyr Sacsonaidd o'r 11fed ganrif oedd Godiva (neu Godifa) (Sacsoneg: "Anrheg gan Dduw"), (Saesneg: Lady Godiva), yn ôl y chwedl. Mae'r chwedl amdani'n tarddu'n ôl i'r 13eg ganrif ac yn ei disgrifio'n marchogaeth ceffyl drwy strydodd Coventry yn noeth, er mwyn derbyn pardwn gan denantiaid ei gŵr am godi rhent a threthi mor aruchel. Dywed chwedl arall i'w gŵr ei hateb gan ddweud y byddai'n rhoi gostyngiad yn y trethi - y diwrnod y byddai hi'n marchogaeth drwy'r dref yn noeth! Fe'i cymherodd hi ef yn llythrennol, a gwnaeth hynny ond gorchmynodd i drigolion y dref gadw i'w tai a chau'r ffenestri.

Yng nghanol un o'r amrywiaethau ar y chwedl hon, peth amser yn ddiweddarach, y defnyddiwyd y gair peeping Tom (neu voyer) am deiliwr lleol o'r enw "Tom" a ddallwyd pan edrychodd arni'n noeth. Yn ei lyfr Y Siwrnai o Gaer i Lundain ysgrifennodd y naturiaethwr Thomas Pennant (14 Mehefin, 1726 - 16 Rhagfyr, 1798) am y digwyddiad hwn: "...ac o ran cywreinrwydd, cymerodd y teiliwr gip sydyn arni, gan drechu ei ofnau." Roedd yn disgrifio'r prosesiwn, blynyddol, a dywedodd fod yr actores a gymerai ran Arglwyddes Godifa wedi'i dilladu mewn "sidan tynn, o liw croen".[1]

Cerflun o Lady Godiva gan Syr William Reid Dick a ddadorchuddiwyd yn Hydref 1949.[2]

Ffigwr hanesyddol[golygu]

Gwraig i Leofric, Iarll Mercia oedd Godiva, ac roedd ganddynt un mab o'r enw Aelfgar, Iarll Mercia.[3]

Ymddengys yr enw (mewn sawl sillafiad gwahanol) yn Llyfr Dydd y Farn (Domesday Book): Godgifu neu Godgyfu ydy'r fersiynnau mewyaf poblogaidd; Godiva yw'r ffurf Ladin. Ceir llawer o bobl gyda'r enwau hyn yn Llyfr Dydd y Farn.[4][5]

Er mwyn y chwedl, mae llawer yn ei chysylltu gyda pherson o'r un enw a ysgrifennwyd amdani yn Liber Eliensis sef hanes Abaty Ely a sgwennwyd yn y 12fed ganrif. Dywed y llawysgrif hwnnw iddi briodi Leofric pan oedd yn wraig gweddw. Roedd y ddau'n hael eu rhoddion ar gyfer sefydlu abatai; Yn 1043 sefydlodd Leofric Abaty Benedctaidd yn Coventry.[6] ar dir hen leiandy a ddinistrwyd gan y Daniaid. Dywed awdur y llawysgrif (sef Roger o Wendover) mae Godiva oedd y tu ôl i hyn.

Yn 1656 ysgrifennodd William Dugdale y ceid ffenestr liw wedi'i chysegru i Arglwyddes Godiva yn Eglwys y Drindod, Coventry a oedd yn dyddio'n ôl i oes Rhisiart II, brenin Lloegr sef diwedd y 14eg ganrif. Tynnwyd y gwydr lliw'n ddarnau yn 1775. Dywed Dugdale ei bod yn marchogaeth ceffyl gwyn mewn gwisg felen a bod yn ei llaw dusw o flodau'r ddraenen ddu neu'r ddraenen wen.[7] Cysylltir y ddraenen gyda defodau paganaidd.

Cysylltiad Paganaidd[golygu]

Yn ôl rhai haneswyr ceir elfenau o ddefodau cyn-Gristnogol yn y chwedl hon sy'n ymdebygu i'r ddefod Geltaidd o anrhydeddu un o forynion Calan Mai; defod yn ymwneud â frwythlondeb a dyfodiad y gwanwyn fyddai hon. Mae'n bosib fod cysylltiad yma â Rhiannon (neu Epona) sef duwies y ceffylau yn y Mabinogi. Epona oedd un o'r ychydig dduwiau Celtaidd roedd y Rhufeiniaid, hefyd, yn ei haddoli; ceir hefyd Macha yn ffigwr tebyg mewn chwedloniaeth Gwyddelig. Roedd llun ohoni ar ffenestr liw Eglwys y Drindod, Coventry (gweler uchod) hyd at 1775 ac roedd yn atgyfnerthu'r cysylltiad hwn. Am o leiaf tri chan mlynedd, yn ddi-dor, hyd at 1575, ceid prosesiwn i'w choffháu drwy Coventry; atgyfodwyd y prosesiwn hwn a pharheir i ethol 'Brenhines Fai' i gynrychioli Godiva o blith merched glasoed y dref. Yn ôl rhai (megis Janet a Stewart Farrar) mae geiriau'r rhigwm hynafol Saesneg Ride a cock horse to Banburry Cross / To see a fine Lady on a white horse... yn deillio'n ôl i'r un traddodiad Celtaidd. Mae ceffyl pren (neu'r “hobby horse” / “cock horse”) yn hen degan: sef ffon hir i'w osod rhwng y cluniau a phen ceffyl allan o bren; fe'i defnydir hyd heddiw gan rai grwpiau o ddawnswyr gwerin e.e. dawnswyr Morris a gwisgir clychau ar y coesau fel yr arferwyd ei wneud gyda'r Fari Lwyd.

Oriel luniau[golygu]

Mewn diwylliant[golygu]

  • Ysgrifennodd [Alfred Tennyson]] gerdd amdani.
  • Caiff ei henwi yn un o ganeuon y grŵp Queen: "Don't Stop Me Now" (1979), o'u halbwm Jazz a gyhoeddwyd ym 1978: "I'm a racing car / Passing by like Lady Godiva / I'm gonna go go go / There's no stopping me."

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Pennant, Thomas, The Journey from Chester to London 1811 edition, tud.190
  2. Douglas, Alton (Chwefror 1991). Coventry: A Century of News. Coventry Evening Telegraph. tud. 62. ISBN 0-902464-36-1. 
  3. Patrick W. Montague-Smith Letters: Godiva's family tree The Times, 25 Ionawr 1983
  4. (Saesneg) Williams, Ann (Medi 2004). "Godgifu (d. 1067?)". Oxford Dictionary of National Biography (online ed.). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/10873.  (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
  5. "Lady Godiva, the book, and Washingborough", Lincolnshire Past and Present, 12 (1993), tud. 9–10.
  6. Anglo-Saxons.net, S 1226
  7. Dugdale, William (1656). Antiquities of Warwickshire. London. 

Gweler hefyd[golygu]