Plymouth
Oddi ar Wicipedia
Mae Plymouth (Cernyweg: Aberplym) yn borthladd yn Nyfnaint, yn ne-orllewin Lloegr. Fe'i gweinyddir fel awdurdod unedol y tu allan i awdurdod Cyngor Sir Dyfnaint.
Fe'i lleolir ar Plymouth Sound rhwng aberoedd Afon Tamar ac Afon Plym. Oherwydd ei lleoliad mae yn borthladd o bwys ers canrifoedd, yn enwedig yn nhermau milwrol. Yn ôl traddodiad roedd Syr Francis Drake yn chwarae bowls yma wrth i Armada Sbaen nesáu.
Hwyliodd Tadau'r Pererin o Plymouth ar y llong hwylio Mayflower yn 1620.
Yn y 18fed ganrif roedd yn ganolfan gwaith porslen o bwys.
Mae gwasanaeth fferi Brittany Ferries yn cysylltu Plymouth â Rosko yn Llydaw, ac mae hefyd wasanaeth fferi i Santander yn Sbaen.
[golygu] Gefeilldrefi
Gefeilldrefi Plymouth:
Brest, Llydaw (ers 1963)
Gdynia, Gwlad Pwyl (ers 1976)
Novorossiysk, Rwsia (ers 1990)
Donostia, Gwlad y Basg (ers 1990)
Plymouth, Massachusetts, UDA (ers 2001)
Hefyd mae gan Plymouth gysylltiad gyda:
Ashburton • Axminster • Barnstaple • Beer • Bideford • Bovey Tracey • Bradninch • Brixham • Buckfastleigh • Budleigh Salterton • Caerwysg •Chagford • Chudleigh • Chulmleigh • Colyford • Colyton • Crediton • Cullompton • Dartmouth • Dawlish • Exmouth • Great Torrington • Hartland • Hatherleigh • Holsworthy • Honiton • Ilfracombe • Ivybridge • Kingsbridge • Moretonhampstead • Newton Abbot • North Tawton • Northam • Okehampton • Ottery St Mary • Paignton • Plymouth • Princetown • Salcombe • Seaton • Sidmouth • South Molton • Tavistock • Teignmouth • Tiverton • Torquay • Totnes

