Inverness
Dinas yn Ucheldiroedd yr Alban yw Inverness (Gaeleg: Inbhir Nis). Saif lle mae Afon Ness yn llifo i mewn i'r Moray Firth. Mae'r boblogaeth yn 66,600, gyda 5.47% ohonynt yn siarad Gaeleg. Dyma yw prif ganolfan poblogaeth ardal Cyngor yr Ucheldir.
Roedd Inverness yn un o brif gadarnleoedd y Pictiaid, a chofnodir i Sant Colum Cille ddod yma yn 565 i efengylu i Bridei I, brenin y Pictiaid. Dywedir i'r castell gael ei adeiladu gan Máel Coluim III wedi iddo ddinistrio castell cynharach a adeiladwyd gan Mac Bethad mac Findláich (Macbeth). Ymladdwyd Brwydr Culloden gerllaw'r ddinas yn 1746.
Ar 7 Medi, 1921, cynhaliwyd cyfarfod o gabinet y Deyrnas Unedig yma, yr unig dro erioed iddo gyfarfod tu allan i Lundain. Roedd y Prif Weinidog, David Lloyd George, ar ei wyliau yn Gairloch, a galwodd gyfarfod yma i drafod yr argyfwng yn Iwerddon.
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Castell Inverness
- Eglwys gadeiriol
- Theatr Eden Court
- Ysbyty Raigmore
Pobl enwog o Inverness [golygu]
- Charles Kennedy, cyn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol
- Mike Zagorski, seiclwr
- Elspet Gray (g. 1929), actores