Caergrawnt
| Dinas Caergrawnt | |
|---|---|
yn Swydd Gaergrawnt |
|
| Daearyddiaeth | |
| Statws: | Dinas (1951) |
| Rhanbarth: | Dwyrain Lloegr |
| Sir: | Swydd Gaergrawnt |
| Arwynebedd: | 40.70 km² |
| Cód SYG: | 12UB |
| Demograffig | |
| Poblogaeth (2002) | 110,656 2,719 / km² |
| Gwleidyddiaeth | |
| Gweithgor: | Dem Rhydd |
| AS: | Julian Huppert (Caergrawnt), Andrew Lansley (De Swydd Gaergrawnt) |
Mae Caergrawnt (Saesneg: Cambridge) yn ddinas Seisnig hynafol. Hi yw tref sirol Swydd Gaergrawnt ac mae hi'n gartref i ail brifysgol hynaf y byd Seisnig, Prifysgol Caergrawnt. Mae'r dref tua 80 km (50 o filltiroedd) i'r gogledd o Lundain. 108,863 oedd y boblogaeth ar ddiwrnod y cyfrifiad 2001. Mae hi'n lledred 52°12' i'r gogledd a hydred 0°07' i'r dwyrain.
Beic ydy modd cludiant llawer o bobl yng Nghaergrawnt, oherwydd y brifysgol, a'r diffyg bryniau mawr.
Cynnwys |
Hanes [golygu]
Anheddwyd yr ardal er cyn y Rhufeiniaid ond datblygodd gyda dyfodiad y Rhufeiniaid tua 40 O.C. Yn dilyn ymadawiad y Rhufeiniaid, gwladychwyd yr ardal gan y Sacsoniaid. Nodir dyfodiad y Llychlynwyr mewn cronicl yn 878.
Gwraidd Gwasg Prifysgol Caergrawnt oedd rhoi trwydded argraffu yn 1534. Sefydlwyd Ysbyty Addenbrooke (Addenbrooke's Hospital) yn 1719.
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Amgueddfa Fitzwilliam
- Capel Coleg y Brenin
- Eglwys Mawr Santes Fair
- Kettle's Yard
- Pont y Gegin (1709)
- Pont Mathemategol (1905)
- Ysgol Pythagoras (c. 1200)
Enwogion [golygu]
- Christopher Cockerell (1910-1999), peiriannydd
- Ronald Searle (g. 1920), arlunydd
- Richard Attenborough (g. 1923), actor a chyfarwyddwr ffilm
- David Gilmour (g. 1946), cerddor
- Olivia Newton-John (g. 1948), cantores
- Jeremy Northam (g. 1961), actor
Gefeilldrefi [golygu]
Yr Almaen - Heidelberg (1957)
Hwngari - Szeged (1987)
Gweler hefyd [golygu]
Dolenni allanol [golygu]
- (Saesneg) Cyngor y Ddinas