Bangor

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 53°13′41″N 4°07′41″W / 53.228°N 4.128°W / 53.228; -4.128

Bangor
Panorama Bangor 03 977.png
Dinas Bangor
Bangor is located in Gwynedd
Bangor

Bangor Gwynedd
Poblogaeth 17,575 cyfrifiad (2011)
Cyfeirnod grid yr AO SH580722
    - Caerdydd  184 milltir (296 km) 
    - Llundain  258 milltir (415 km) 
Sir Gwynedd
Sir seremonïol Gwynedd
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost BANGOR
Rhanbarth cod post LL57
Cod deialu 01248
Yr Heddlu Gogledd Cymru
Tân Gogledd Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Arfon
Cynulliad Cymru Arfon
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Gwynedd
Mae'r erthygl yma'n cyfeirio at Fangor, Gwynedd, gogledd Cymru. Gweler Bangor (gwahaniaethu) am leoedd eraill a elwir yn Fangor.

Dinas a chymuned yw Bangor yng Ngwynedd, gogledd-orllewin Cymru; Cyfeirnod OS: SH 58179 72393. Mae ganddi boblogaeth o tua 15,000 (neu tua 21,735 gan gynnwys ei chyrion). Mae Prifysgol Bangor ac Eglwys Gadeiriol Bangor yn y ddinas. Bangor yw canolfan Esgobaeth Bangor a sedd Esgob Bangor. Yr enw llawn tan yn ddiweddar oedd 'Bangor Fawr yn Arfon'.

Daearyddiaeth[golygu]

Mae rhannau hynaf Bangor yn gorwedd yn nyffryn Afon Adda, sy'n wastadedd cyfyng rhwng dwy res o fryniau a red o'r gorllewin i'r dwyrain. Mae'r dyffryn yn agored i'r môr yn y dwyrain ar y bae bychan mewn braich agored o Afon Menai. Uwchlaw'r eglwys gadeiriol mae'r Stryd Fawr hir, gul, tra bod prif adeiladau'r coleg yn coronni'r bryn i'r gogledd. I'r de o'r ddinas mae bryn coediog, serth Mynydd Bangor yn codi i 300 troedfedd. I'r gorllewin rhed Ffordd Caernarfon allan o'r ddinas dan y bont reilffordd ar hyd dyffryn Afon Adda; yma mae Ysbyty Gwynedd, nifer o stadau tai a datblygiadau siopa newydd gan gynnwys archfarchnadoedd mawrion.

Rhwng Bangor ac Ynys Môn, mae dwy bont: Pont Y Borth a Phont Britannia. Mae Pont Britannia yn fawr, gyda dwy lefel ar ben ei gilydd, ar y lefel uchaf mae ffordd geir, ac ar y lefel isaf mae rheilffordd. Adeiladwyd Pont y Borth gan Telford; hon oedd bont grog fwya'r byd ar un cyfnod ac mae'n gul, oherwydd ei hoed, a does dim caniatâd pasio arno.

Hanes[golygu]

Eglwys gadeiriol Bangor

Yn ôl traddodiad sefydlodd Deiniol Sant fynachlog (clas) ar lannau Afon Adda yn y 6ed ganrif. Mae enw'r dref yn dod o'r gair bangor, sef "clawdd plethiedig" neu'r tir a amgeir ganddo (llan). Cafodd Deiniol ei gysegru'n esgob cyntaf Bangor gan Dyfrig Sant (Dubricius).

Ymddengys fod y fynachlog a'r hen eglwys gadeiriol wedi parhau i sefyll hyd 1071 nes iddynt gael eu llosgi gan y Normaniaid. Ailadeiladwyd yr eglwys gadeiriol tua 1102 dan nawdd Gruffudd ap Cynan, Brenin Gwynedd, ond iddi gael ei dinistrio unwaith yn rhagor gan luoedd y brenin John o Loegr yn 1210 pan ymosododd ar Wynedd. Claddwyd Gruffudd ap Cynan a'i ŵyr Owain Gwynedd yn y gadeirlan. Fe'i adeiladwyd o'r newydd bron yn y 13eg ganrif.

Ymwelodd Gerallt Gymro â Bangor yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.

Yn y 13eg ganrif, sefydlwyd mynachlog fymryn i'r gogledd o'r hen dref gan Urdd y Dominiciaid. Ym 1557, sefydlwyd ysgol rad, sef Ysgol Friars ar y safle hwnnw. Mae'r ysgol yn parhau i fodoli, er ei bod wedi symud safle sawl gwaith.

Yn raddol tyfodd tref fechan o gwmpas yr eglwys gadeiriol ond nid oedd yn llawer mwy na phentref tan ddiwedd y 18fed ganrif pan agorwyd chwareli llechi Penrhyn ac adeiladwyd porthfa newydd yn Abercegin, fymryn i'r gogledd-ddwyrain o'r ddinas. Gydag agoriad ffordd newydd Thomas Telford (yr A5 heddiw) ac wedyn Pont y Borth yn 1826 daeth Bangor yn ganolfan cludiant o bwys a datblygodd yn gyflym. Cyrhaeddodd y rheilffordd yn 1848. Yn 1883 rhoddwyd siartr bwrdeistref i'r ddinas ac yn 1885 adnabuwyd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru â siartr brifysgol.

Yn yr 1960au sefydlwyd yma'r gell gyntaf o Cymdeithas yr Iaith a arweiniodd y ffordd i weddill Cymru drwy greu ymgyrchoedd newydd dros y Gymraeg megis y frwydr dros Ysgol Uwchradd Gymraeg ym Mangor; yma hefyd yr argraffwyd copiau cyntaf o Dafod y Ddraig.

Gwelodd Bangor ddatblygiadau mawr yn yr ugeinfed ganrif gyda nifer o dai yn cael eu codi ar ymyl y ddinas, yn arbennig ar y bryn lle saif y coleg (Bangor Uchaf) ac ar gyrion y dref ym Maesgeirchen.

Pêl-droed[golygu]

Mae tîm y dref yn un o'r hynaf yng Nghymru gan iddo gael ei sefydlu yn 1876. Tan y 2000'au arferid chwarae ar gae "Ffarar Road".[1]

Y Pier[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Pier y Garth
Pier y Garth o Fiwmaris

Mae gan Fangor y pier ail hiraf yng Nghymru (y nawfed hiraf yng ngwledydd Prydain), sy'n ymestyn 1,500 troedfedd (472 medr) i Afon Menai. Fe'i lleolir tua hanner milltir i'r gogledd-ddwyrain o'r ddinas ei hun, yn ymyl Y Garth, sy'n rhoi ei enw iddo'n swyddogol er mai fel Pier Bangor y mae'n cael ei adnabod gan bawb bron. Bu bron iddo gael ei ddymchwel yn 1974 oherwydd ei gyflwr ar y pryd. Ond gwrthwynebwyd y cynllun gan bobl leol ac erbyn hyn mae'r pier wedi cael ei drwsio (rhwng 1982 a 1988) ac yn adeilad rhestredig Graddfa II.

Porth Penrhyn[golygu]

Ar ochr ddwyreiniol y ddinas ar lan Afon Menai mae porthladd bychan Porth Penrhyn, oedd o bwysigrwydd mawr yn y 19eg ganrif fel porthladd i allforio llechi o Chwarel y Penrhyn.

Ysgolion[golygu]

Yr ymgyrch dros ysgol uwchradd Gymraeg i Fangor (a Llandudno) oedd ymgyrch gyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (1963); cangen Bangor oedd y gyntaf drwy Gymru.[2]

Dyma'r ysgolion fel ag y maent heddiw:

Bu Ysgol Gymraeg St. Pauls yma am gyfnod, cyn Ysgol y Garnedd.

Eisteddfod Genedlaethol[golygu]

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor ym 1890, 1902, 1915, 1931 a 1971. Am wybodaeth bellach gweler:

Cludiant[golygu]

Mae gan Bangor orsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru sy'n ei chysylltu â Chaergybi a Chaer. Yn ogystal, Bangor yw prif echel rhwydwaith bysus y rhan yma o Wynedd, gyda gwasanaethau niferus i bentrefi lleol a lleoedd eraill. Mae gwasanaeth cyflym y Traws Cambria yn cysylltu Bangor a Chaerdydd trwy Aberystwyth.

Gefeilldref[golygu]

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Bangor (pob oed) (16,358)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Bangor) (5,801)
  
36.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Bangor) (8285)
  
50.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Bangor) (2,217)
  
41.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. The Visitor, rhif 27, tudalen 6
  2. Gwefan Owain Owain
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:


 
Dinasoedd yng Nghymru
Flag of Wales 2.svg
Abertawe | Bangor | Caerdydd | Casnewydd | Tyddewi