Ysgol Tryfan

Oddi ar Wicipedia
Ysgol Tryfan
Arwyddair Cefnogi. Ysbrydoli. Yn Deulu.
Sefydlwyd 1978
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Pennaeth Dr Geraint Jones
Dirprwy Bennaethiaid Mari James
Paul Harris
Lleoliad Lôn Powys, Bangor, Gwynedd, Cymru, LL57 2TU
AALl Cyngor Gwynedd
Staff 49
Disgyblion 430 (2018)[1]
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Gwefan http://www.ysgoltryfan.org/

Ysgol uwchradd gyfun gymunedol ddwyieithog ym Mangor yw Ysgol Tryfan.

Sefydlwyd yr ysgol ar safle'r hen Ysgol Sirol i Enethod ym 1978 fel ysgol gyfun gyfrwng Cymraeg i gylch Bangor. Lleolir yr ysgol ar safle flaenorol Ysgol Ramadeg y Merched, ar Lôn Powys yn ardal Maes Tryfan, heb fod ymhell o Benrhosgarnedd, a thua milltir o ganol Dinas Bangor.

Hanes

Yn 1971, cyfunwyd tair ysgol uwchradd at ei gilydd - Ysgol Friars, Ysgol Sirol y Genethod (sef ysgol ramadeg arall), ac ysgol Deiniol (ysgol eilradd fodern gymysg). Sefydlwyd yr ysgol i ddechrau ar dri safle. Defnyddiwyd safle hen ysgol y genethod (safle Tryfan) fel ffrwd iaith Gymraeg i’r blynyddoedd isaf, a hen adeilad Friars (safle Ffriddoedd) fel ffrwd iaith Saesneg i’r blynyddoedd isaf. Daeth y blynyddoedd uwch at ei gilydd mewn adeiladau newydd a adeiladwyd am £300,000 ar safle newydd yn Eithinog.

Cafwyd ail-drefnu pellach ym 1978. Gwahanwyd y ffrwd iaith Gymraeg i ffurfio ysgol 11-18 newydd, Ysgol Tryfan, ar safle Lôn Powys.

Addysg

Yn ystod adroddiad Estyn 2001, roedd tua 430 o ddisgyblion.[2] Erbyn 2007, roedd hyn wedi gostwng i gyfanswm o 370, 300 ym mlynyddoedd 7 i 11 gyda 70 ychwanegol yn y chweched ddosbarth. Daeth 46% ohonynt o gartrefi lle roedd y Gymraeg yn brif iaith a 25% o gartrefi lle roedd y Saesneg yn brif iaith, a 29% o deuluoedd dwyieithog. Siaradai 96% o'r disgyblion y Gymraeg i safon iaith gyntaf, cynnydd o 6% ers 2001.[3] Yn adroddiad Estyn 2013, roedd 524 o ddisgyblion yn cynnwys 86 yn y chweched dosbarth. Daeth 64% ohonynt o gartrefi lle mae'r Gymraeg yn cael ei siarad.[4]

Mae Ysgol Tryfan yn aelod o gonsortiwm ysgolion uwchradd Arfon a Choleg Menai, sy'n darparu cyrsiau ychwanegol i ddisgyblion blynyddoedd 10 i 13 (cyfnod TGAU a'r chweched ddosbarth), megis cyrsiau galwedigaethol cynnal, gofal anifeiliaid bychan a chadw cerbyd a thrin gwallt.[3]

Prif Athrawon

  • 1978-1986 : Islwyn Parry
  • 1986-1996 Eifion Williams
  • 1996–2004 : Gareth Tudor Jones BSc
  • 2004–2012 : Gareth Isfryn Hughes B.Add. (dyrchafwyd o dirprwy bennaeth ym mis Medi 2004)
  • Ebrill 2012 – Awst 2019 : Gwyn Tudur (gynt yn ddirprwy bennaeth yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon)[5]
  • Medi 2019 - Awst 2022 : Arwyn Williams
  • Medi 2022 - Ionawr 2023: Mrs Mari James (Pennaeth dan-ofal)
  • Ionawr 2023- : Dr Geraint Jones

Ysgolion cynradd yn nalgylch yr ysgol

Cyn-ddisgyblion nodedig

Gweler hefyd y categori Pobl addysgwyd yn Ysgol Tryfan

Cyfeiriadau

  1. Llawlyfr Ysgol Tryfan 2018-2019
  2.  Adroddiad Adolygiad Ysgol Tryfan 8 – 12 Hydref, 2001. Estyn (10 Rhagfyr 2001).
  3. 3.0 3.1  Adroddiad Adolygiad Ysgol Tryfan 08/05/07. Estyn (11 Gorffennaf 2007).
  4.  Adroddiad ar Ysgol Tryfan, Hydref 2013. Estyn (10 Rhagfyr 2013). Adalwyd ar 8 Chwefror 2016.
  5.  Archif Newyddion Ysgol Tryfan (Mai 2012). Adalwyd ar 8 Chwefror 2016.

Dolenni allanol

Gwefan yr Ysgol Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback.

Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.