Y Fron

Oddi ar Wicipedia
Y Fron
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlandwrog Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr383 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.07°N 4.2284°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH506547 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSiân Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/auHywel Williams (Plaid Cymru)
Map
Am y pentrefan ym Mhowys gweler Y Fron, Powys. Gweler hefyd Fron (gwahaniaethu).

Mae'r Fron ("Cymorth – Sain" ynganaid ) (weithiau Llandwrog Uchaf neu Cesarea) yn bentref yn Nyffryn Nantlle yng Ngwynedd. Saif ychydig i'r dwyrain o bentref Carmel, ym mhen draw y ffordd sy'n arwain tua'r mynydd o'r briffordd A487 yn y Groeslon. Mae Moel Tryfan i'r gogledd, Mynydd y Cilgwyn i'r gorllewin a Mynydd Mawr (weithiau Mynydd Grug neu Fynydd Eliffant) tua'r dwyrain.

Datblygydd y pentref tua chanol y 19g ger y ffordd wreiddiol i Chwarel Pen yr Orsedd a'r rheilffordd i Chwarel y Fron. Ar y llechweddau i'r dwyrain o'r pentref mae llawer o olion o gyfnod cynharach, olion tai crwn o'r math a elwir yn "gytiau'r Gwyddelod" ac olion hen gaeau. Yn 2002 defnyddiwyd Chwarel y Fron i ffilmio Lara Croft Tomb Raider: The Cradle of Life.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]