Llanfaelrhys

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Llanfaelrhys gyda Mynydd Rhiw yn y cefndir

Pentref gwledig a phlwyf ym Mhen Llŷn, Gwynedd, yw Llanfaelrhys (cyfeiriad grid SH210267). Fe'i lleolir ger arfordir de-orllewinol penrhyn Llŷn, rhwng Aberdaron i'r gorllewin a Rhiw i'r dwyrain.

Yn ôl traddodiad, sefydlwyd eglwys Llanfaelrhys gan Sant Maelrhys (neu Maelrys, Maelerw), cefnder Sant Hywyn, sefydlydd eglwys Aberdaron ; dywedir fod Maelrhys yn un o seintiau Ynys Enlli. Roedd yr eglwys yn un o gapeli Aberdaron yn yr Oesoedd Canol a'r plwyf yn rhan o gwmwd Cymydmaen.

Mae'r ardal yn ne'r plwyf, uwchben bae Porth Ysgo, yn perthyn i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yma ceir clogwynni mawr sy'n disgyn yn syrth i'r traeth creigiog islaw.


WalesGwynedd.png Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato