Llanbedrog

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Am yr eglwys a phlwyf ger Penfro, gweler Llanbedrog, Sir Benfro.
Traeth Llanbedrog o Fynydd Tir-y-cwmwd.
Eglwys Pedrog Sant.

Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig yn ne-orllewin Llŷn, Gwynedd yw Llanbedrog. Mae'n gorwedd ar lan Bae Ceredigion tua hanner ffordd rhwng Pwllheli i'r dwyrain ac Abersoch i'r de. Rhed y ffordd A499 trwy'r pentref.

Mae penrhyn Mynydd Tir y Cwmwd (343 troedfedd) yn ei gysgodi i'r de. O'r copa ceir golygfeydd braf dros Fae Ceredigion ac Ynysoedd Tudwal ac i fryniau Eryri yn y gogledd-ddwyrain.

Mae eglwys y plwyf yn bur hynafol. Fe'i cysegrir i Sant Pedrog. Eglwys un siambr hir ydyw, sy'n dyddio yn rhannol i'r 13eg ganrif. Ychwanegwyd clochdy yn y 19eg ganrif pan gafodd ei hatgyweirio'n sylweddol a'i thrawsnewid gan golli llawer o'i chymeriad hynafol. Mae'r bedyddfaen yn dyddio i'r 15fed ganrif.

Mae traeth Llanbedrog yn ddeniadol ac yn boblogaidd gan ymwelwyr. I'r gogledd ceir craig isel Carreg y Defaid.

[golygu] Enwgion


Offer personol
Parthau
Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill