John Owen Williams
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth John Owen Williams (Pedrog))
Bardd Cymraeg a gweinidog oedd John Owen Williams, enw barddol Pedrog (20 Mai 1853 - 9 Gorffennaf 1932).
Ganed ef yn y Gatws, Madryn, yn yr hen Sir Gaernarfon. Collodd ei rieni pan oedd yn ieuanc, a magwyd ef gan ei fodryb yn Llanbedrog. Gadawodd yr ysgol yn 12 oed, a bu'n brentis garddwr, cyn symud i Lerpwl yn 1876 i weithio mewn masnachdy. Ordeiniwyd ef yn weinidog gyda'r Annibynwyr yn 1884, a bu'n weinidog eglwys Kensington, Lerpwl, ahyd 1930. Bu'n gadeirydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, ac yn olygydd Y Dysgedydd o 1922 hyd 1925.
Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1891, Llanelli 1895 a Lerpwl 1900. Bu'n Archdderwydd o 1928 hyd 1932.