Trefor

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Erthygl am y pentref yng Ngwynedd yw hon. Gweler hefyd Trefor (gwahaniaethu).
Trefor o lethrau Yr Eifl.
Trefor gyda phen gogleddol Yr Eifl

.

Pentref gerllaw Yr Eifl ar arfordir gogleddol Llŷn yng Ngwynedd yw Trefor. Saif ychydig oddi ar y briffordd A499 o Gaernarfon i Bwllheli, rhwng Clynnog Fawr a Llanaelhaearn, lle maer'r briffordd yn gadael yr arfordir ac yn troi tua'r de. Mae'n rhan o gymuned Llanaelhaearn. Mae yno harbwr bychan, pier a thraeth. Llifa Afon Tal i'r môr yn y pentref.

Hanes[golygu]

Pentref cynharol newydd yw Trefor. Yn 1839 nid oedd dim yno ond ffermydd a hanner dwsin o dai chwarelwyr. Tyfodd y pentref pan ddatblygodd y chwarel ithfaen ar Yr Eifl, a agorwyd yn 1850. 'Y Gwaith Mawr' oedd yr enw a roddwyd ar y chwarel newydd; yn ôl y sôn bu ar un cyfnod y chwarel sets fwyaf yn y byd. Er ei fod ar lan y môr, nid "Tre-fôr" yw tarddiad yr enw. Enwyd y pentref ar ôl Trefor Jones, un o oruchwylwyr y chwarel. Gweithwyr yn y chwarel a'u teuluoedd oedd y rhan fwyaf o'r boblogaeth. Yn 1865 agorwyd tramffordd Chwarel yr Eifl i ddod a'r ithfaen o'r chwarel i'r harbwr. O'r cychwyn cyntaf bron roedd 'na berthynas glos rhwng gweithwyr chwarel Trefor a chwarel ithfaen Penmaenmawr. Mae Seindorf Arian Trefor, a sefydlwyd yn 1863, yn un o'r hynaf yng Ngwynedd.

Pobl o Drefor[golygu]

Y cei yn Nhrefor

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Gwilym Owen, Pentref Trefor a Chwarel yr Eifl (Gwilym Jones, 1972)
  • Gwilym Owen, Dan Gysgod yr Eifl (Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 1990). Cyfrol fach ar chwaareli Llŷn gydag adran am chwarel Trefor.

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: