Aberdyfi
Cyfesurynnau: 52°32′40″N 4°02′40″W / 52.54438°N 4.0444°W
| Aberdyfi | |
Yr olygfa o Aberdyfi o Benhelig |
|
|
|
|
| Poblogaeth | 800 |
|---|---|
| Cyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans | SN615965 |
| Prif ardal | Gwynedd |
| Sir seremonïol | Gwynedd |
| Gwlad | Cymru |
| Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
| Tref bost | ABERDYFI / ABERDOVEY |
| Rhanbarth cod post | LL35 |
| Cod deialu | 016 54 |
| Yr Heddlu | Gogledd Cymru |
| Tân | Gogledd Cymru |
| Ambiwlans | Cymru |
| Senedd yr Undeb Ewropeaidd | Cymru |
| Senedd y DU | Dwyfor Meirionnydd |
| Cynulliad Cymru | Dwyfor Meirionnydd |
| Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Gwynedd | |
Tref fach a chymuned ar lan ogleddol aber eang Afon Dyfi ym Meirionnydd, Gwynedd yw Aberdyfi. Cyfeirnod OS: SN 60728 96024. Mae ar yr A493 a Rheilffordd y Cambrian, rhwng Pennal a Machynlleth i'r dwyrain a Thywyn i'r gogledd. Twristiaeth yw'r prif ddiwydiant yno heddiw. Mae traeth eang tywodlyd yn ymestyn am filltiroedd o Aberdyfi i Dywyn ac mae'n boblogaidd iawn gydag ymwelwyr haf.
Cynnwys |
[golygu] Yr hen fferi
Ar un adeg bu gwasanaeth cwch fferi yn cysylltu Aberdyfi ag Ynys Tachwedd, ger y Borth, ar lan ddeheuol Afon Dyfi. Mae'n bosibl mai fan hyn y croesodd Gerallt Gymro a Baldwin, Archesgob Caergaint ar eu ffordd i'r gogledd ym 1188; "croesasom yr afon mewn cwch," meddai Gerallt yn ei lyfr Hanes y Daith Trwy Gymru.
[golygu] Diwylliant a thraddodiadau
Mae'r dref yn enwog am y gân werin adnabyddus "Clychau Aberdyfi", a gysylltir weithiau â chwedl Cantre'r Gwaelod. Cyhoeddwyd yr alaw gan Maria Jane Williams (Llinos) (1795 - 1883) yn y gyfrol Ancient National Airs of Gwent and Morgannwg (1844). Yn ddiweddarach ysgrifennodd Ceiriog eiriau i'r alaw yn ogystal. Mae'r nofel The Misfortunes of Elphin gan Thomas Love Peacock yn gymysgiad bwrlesg o draddodiad "Clychau Aberdyfi", chwedl Cantre'r Gwaelod ac elfennau o'r chwedl Hanes Taliesin.
Ceir cân werin arall, sef 'Mynydd Aberdyfi', hefyd:
- "Mi geisiaf eto ganu cân
- I'th gael di 'nôl fy ngeneth lân
- I'r gadair siglo ger y tân,
- Ar fynydd Aberdyfi...
[golygu] Enwogion
- Ieuan Dyfi (1461 - 1500), bardd.
- Thomas Francis Roberts (1860 - 1919), Prifathro Coleg y Brifysgol, Aberystwyth.
[golygu] Dolenni allanol
- (Saesneg) Gwefan Aberdyfi ar y BBC
- (Saesneg) Gwefan y BBC a Chantre'r Gwaelod
- Gwefan Aberdyfi
[golygu] Gweler hefyd
- Cynhadledd Aberdyfi (1216)
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Abererch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abermaw · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Y Bala · Bangor · Beddgelert · Bethania · Bethel · Bethesda · Betws Garmon · Blaenau Ffestiniog · Boduan · Bontddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Caernarfon · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Cricieth · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolgellau · Dolbenmaen · Dyffryn Ardudwy · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Frongoch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Harlech · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywair · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Nefyn · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhyndeudraeth · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Penygroes · Pistyll · Pontllyfni · Porthmadog · Portmeirion · Prenteg · Pwllheli · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhostryfan · Rhyd · Rhyd-Ddu · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Sling · Soar · Talsarnau · Talybont, Abermaw · Talybont, Bangor · Talysarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tregarth · Tremadog · Tudweiliog · Tywyn · Waunfawr