Trawsfynydd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Trawsfynydd
Gwynedd
CymruGwynedd.png
Smotyn Coch.gif
Trawsfynydd: Y pentref o gyfeiriad y Bala
Canol Trawsfynydd: tafarn y Cross Foxes.

Pentref a chymuned yn ne Gwynedd yw Trawsfynydd, sy'n gorwedd ar lan ddwyreiniol Llyn Trawsfynydd ar ochr cefnffordd de-gogledd yr A470. Mae'n adnabyddus fel man geni y bardd Hedd Wyn. Mae 81.7% o'r pentrefwyr yn medru'r Gymraeg. Cyfanswm arwynebedd y plwyf yw 12,830 hectar gyda phoblogaeth o 1000 o bobl.

Adeiladwyd Atomfa Trawsfynydd ar lannau'r llyn yn y chwedegau a ddaeth â llawer o waith i'r ardal. Mae hi bellach yn cael ei dadgomisiynu ers cael ei chau ym 1992. O safbwynt gwleidyddol, mae'r Pentref yn rhan o ward ehangach Trawsfynydd ac yn cael ei gynrychioli ar Gyngor Gwynedd gan y Cynghorydd Thomas Ellis (Annibynnol). Mae ysgol gynradd yn y pentref o'r enw Ysgol Bro Hedd Wyn, sy'n rhan o ddalgylch Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog. Mae dwy dafarn yn y pentref o'r enw'r Cross Foxes a Rhiw Goch. Mae nifer o siopau ar gael yn y pentref gan gynnwys Swyddfa Bost, Siop Bapur, Fferyllfa a Chigydd. Mae dwy garej yn y pentref hefyd.

Eglwys[golygu]

Cysegrir eglwys Trawsfynydd i'r Santes Madryn (bl. 5ed ganrif efallai). Roedd hi'n teithio gyda'i morwyn Anhun. Arosant yn Nhrawsfynydd a syrthio i gysgu. Cawsant yr un breuddwyd yn eu gorchymyn i godi cell lleianod yno. Gwnaed hynny a saif Eglwys y Santes Fadryn ar y llecyn heddiw.[1] Mae adeilad presennol yr eglwys yn dyddio o'r 16eg ganrif yn bennaf.[2]

Olion hynafol a chadwraeth[golygu]

Ceir cylch cytiau caeëdig Dolbelydr a Ffridd Wen gerllaw, sy'n dyddio yn ôl i Oes yr Efydd.

Mae Afon Eden - Cors Goch Trawsfynydd wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Hedd Wyn[golygu]

Roedd y bardd enwog Hedd Wyn a'r merthyr Catholig Sant John Roberts yn hannu o'r ardal. Mae cerflyn o Hedd Wyn yn sefyll yng nghanol y pentref ac mae arddangosfa yn adrodd ei hanes yng Nghanolfan Treftadaeth Llys Ednowain gerllaw.

Enwogion[golygu]

Hen bennill[golygu]

Am ryw reswm roedd y pellter i Drawsfynydd yn dipyn o ddihareb yn yr oes a fu. Dyma'r hen bennill, er enghraifft:

Hir yw'r ffordd a maith yw'r mynydd
O Gwm Mawddwy i Drawsfynydd:
Ond lle bo 'wyllus mab i fyned,
Fe wêl y rhiw yn oriwaered.[3]

Cludiant[golygu]

Mae gwasanaeth bws eithaf rheolaidd ar gael o'r pentref i Ddolgellau a Blaenau Ffestiniog ac mae hefyd yn cael ei wasanaethu gan fysus y Trawscambria o Fangor i Aberystwyth.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Trawsfynydd (pob oed) (973)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Trawsfynydd) (725)
  
76.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Trawsfynydd) (738)
  
75.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Trawsfynydd) (157)
  
37.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. The Book of Welsh Saints, tud. 344.
  2. Esgobaeth Bangor
  3. Hen Benillion, gol. T. H. Parry-Williams, rhif 43.
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
WalesGwynedd.png Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato