Golan, Gwynedd

Oddi ar Wicipedia
Golan
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9594°N 4.1972°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH525425 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSiân Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/auHywel Williams (Plaid Cymru)
Map

Pentref gwledig bychan yng nghymuned Dolbenmaen, Eifionydd, Gwynedd, yw Golan[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Fe'i lleolir ger pentref Dolbenmaen ar y lôn i Lanfihangel-y-pennant, 4 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Borthmadog. Mae lôn yn dringo o'r pentref i Lyn Cwmystradllyn, wrth droed Moel Hebog yn Eryri.

Mae'n cymryd ei enw o'r capel lleol, a enwir yn ei dro ar ôl dinas Golan ym Mhalesteina, un o chwech Dinas Noddfa'r Hen Destament.

Hanner milltir i'r dwyrain o Golan ceir plasdy hynafol Clenennau.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[4]

Capel ar gwr Golan. Mynydd Graig Goch yw'r bryn uwch ben y capel; saif Craig Cwm Silyn i'r dde.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru", Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 17 Gorffennaf 2023
  2. British Place Names; adalwyd 17 Gorffennaf 2023
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU