Aelod Seneddol

Oddi ar Wicipedia

Cynrychiolydd a etholir gan etholwyr i Senedd yw Aelod Seneddol, neu AS. Fel rheol mae aelod seneddol yn ymuno ag ASau eraill mewn pleidiau gwleidyddol ond ceir enghreifftiau o ASau annibynnol hefyd.

Ceir aelodau seneddol mewn sawl gwlad sydd â system lywodraethu seneddol, yn cynnwys Awstralia, Canada, Yr Eidal, India, Iwerddon, Libanus, Maleisia, Pacistan, Gwlad Pwyl, Seland Newydd, Singapôr, Sri Lanca a Sweden.

Mae dinasyddion Cymru yn ethol Aelodau o'r Senedd i Senedd Cymru yn ogystal ag ASau i Dŷ'r Cyffredin.

Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am Aelod Seneddol
yn Wiciadur.