Llyn Cwm Ystradllyn

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Llyn Cwmystradllyn)
Llyn Cwm Ystradllyn
Mathllyn, cronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd98 acre Edit this on Wikidata
Uwch y môr942 troedfedd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.977907°N 4.143688°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganDŵr Cymru Edit this on Wikidata
Map

Llyn yng Nghwm Ystradllyn yng Ngwynedd yw Llyn Cwm Ystradllyn. Saif i'r de o gopa Moel Hebog, i'r gogledd o dref Porthmadog ac i'r dwyrain o Gwm Pennant. Mae ganddo arwynebedd o 98 acer ac mae 642 troedfedd uwch lefel y môr.

Adeiladwyd argae yma yn 1959 i godi lefel y dŵr, ac mae'n cael ei ddefnyddio i gyflenwi dŵr i ran o Benrhyn Llŷn. Ceir pysgota am frithyll yma. Mae Afon Henwy yn llifo o'r llyn ac yn ymuno ag Afon Dwyfor.

Gellir gweld nifer o olion cytiau o Oes yr Haearn o gwmpas y llyn, ac mae fersiwn o'r chwedl am briodas a merch o'r Tylwyth Teg yn gysylltiedig a'r llyn, tebyg i'r un a gysylltir a Llyn y Fan Fach a Llyn y Dywarchen. Yn y fersiwm yma, mae bugail yn priodi'r ferch, ac maent yn byw yn hapus nes iddi gael ei tharo ar ei braich gan gryman haearn oedd wedi ei adael mewn ysgub wrth gasglu'r cynhaeaf. Pan ddigwyddodd hyn, diflannodd y ferch.

I'r gogledd-ddwyrain o'r llyn mae olion Chwarel Gorseddau.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)