Betws Garmon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Am enghreifftiau eraill o'r gair betws, gweler Betws (gwahaniaethu).

Pentref gwledig a chymuned yn ardal Arfon, sir Gwynedd, yw Betws Garmon. Saif ar yr A4085 ar ymyl Eryri, traean o'r ffordd rhwng Caernarfon a Beddgelert; Cyfeirnod OS: SH 54546 56819. Ar hyd y ffordd i gyfeiriad y gogledd, Waunfawr yw'r pentref agosaf ac i'r de mae'r ffordd yn ei gysylltu â Salem a Rhyd-ddu, pentref genedigol T.H. Parry-Williams.

Mae lleoliad y pentref yn fendigedig, gyda bryniau Moel Eilio (2382') i'r dwyrain a thalp anferth Mynydd Mawr (2290') i'r de-orllewin. Rhed Afon Gwyrfai sy'n tarddu yn Llyn Cwellyn tair milltir i'r de, heibio i'r pentref, sy'n sefyll ar ei glan ddwyreiniol. Filltir y tu allan i'r pentref i'r de, ar ymyl yr A4085, mae Melin y Nant a'i rhaeadr fach.

[golygu] Safleodd cysylltiedig â Garmon

Mae'r eglwys, sy'n dyddio o 1842, yn un o nifer yng Nghymru sy'n gysegredig i Sant Garmon. Ond yr eglwys newydd yw honno, a cheir olion yr hen eglwys yn ei hymyl. Dim ond y bedyddfaen sy'n aros o'r hen eglwys, a hwnnw'n ddyddiedig 1634. I fyny ar un o'r bryniau gerllaw, Moel Smytho, ceir Ffynnon Armon, dros y cwm o'r eglwys bresennol, a rhwng y ffynnon a'r eglwys newydd mae olion hen addoldy syml o'r enw Capel Garmon. Un drws yn unig sydd iddo a'i hyd yw 23' a'i led 12.5'.

[golygu] Darllen pellach

  • Harold Hughes a H.L. North, The Old Churches of Snowdonia (Bangor, 1924; argraffiad newydd, 1984)


Offer personol
Parthau
Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill