Capel Garmon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Capel Garmon.
Y pentref oddeutu 1875.

Mae Capel Garmon yn bentref yn ne-ddwyrain Dyffryn Conwy, yn sir Conwy, ychydig i'r dwyrain o Betws y Coed. Mae'n rhan o gymuned Bro Garmon. Mae tafarn ac ysgol gynradd yn y pentref.

Hanes a hynafiaethau[golygu]

Darganfuwyd Brigwrn Capel Garmon ym mis Mai 1852 ar dir ger fferm Carreg Goedog. Mae ar gadw yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd. Tybir ei fod yn dyddio o tua 50CC-OC50.[1]

Ger y pentref mae siambr gladdu Capel Garmon, sy'n dyddio o'r cyfnod Neolithig ac o ddiddordeb arbennig fel esiampl o'r Beddrodau Hafren-Cotswold. Yn ne-ddwyrain Cymru ac ardaloedd cyfagos i Loegr mae'r rhan fwyaf o'r rhain i'w cael.

Roedd yr eglwys yn wreiddiol yn gapel anwes, wedi ei gysegru i Sant Garmon. Ni ddaeth Capel Garmon yn blwyf hyd 1927.

Pobl o Gapel Garmon[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. H.N. Savory, Guide Catalogue of the Early Iron Age Collections (Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 1976).
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
CymruConwy.png Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.