Ysbyty Ifan
Pentref a chymuned yn Sir Conwy yw Ysbyty Ifan. Lleolir y pentref ar lannau Afon Conwy ifanc, rhai milltiroedd i'r de o Bentrefoelas ar lôn y B4407 (sy'n cysylltu Pentrefoelas ar yr A5 â Ffestiniog). Hen enw Ysbyty oedd Dolgynwal.
Cynnwys |
Hanes [golygu]
Mae olion cynhanesyddol yn y gymuned yn cynnwys Crug crwn Hwlffordd, sy'n dyddio o Oes yr Efydd.
Yn yr Oesoedd Canol, roedd yr ardal yn rhan o gwmwd Is Aled, cantref Rhufoniog. Daw enw'r pentref o un o ysbytai Marchogion yr Ysbyty a sefydlwyd yno tua'r flwyddyn 1190 gan Ifan ap Rhys o Drebrys, yn ôl traddodiad; does dim olion o'r safle i'w gweld heddiw. Er bod Ysbyty Ifan yn ymddangos yn lle digon diarffordd heddiw, yn yr Oesoedd Canol safai ar ffordd bwysig a gysylltai Llŷn ac Eryri i'r gorllewin ac ardaloedd y Gororau i'r dwyrain. Cafodd yr Ysbyty nawdd gan Llywelyn Fawr a Llywelyn Ein Llyw Olaf ac yn y 13eg ganrif roedd gan y sefydliad enw da am ei letygarwch. Roedd gan yr ysbyty (hosbis), a godwyd ar gyfer teithwyr a phererinion i Ynys Enlli, yr hawl gyfreithiol i fod yn noddfa ac yn ddiweddarach arweiniodd hynny at sawl herwr guddio yno neu yn y cyffiniau. Parhaodd y sefyllfa felly hyd y 15fed ganrif pan roddodd yr uchelwr lleol Maredudd ap Ieuan derfyn arno.[1]
Adeiladau hanesyddol [golygu]
- Pont a melin
Mae pont ddeniadol sy'n dyddio o'r 18fed ganrif yn croesi Afon Conwy yn y pentref. Gerllaw ceir bythynnod traddodiadol sy'n nodweddiadol o bensaernïaeth werinol Eryri a'r cylch. Ar lan yr afon saif hen felin a adeiladwyd yn yr 17eg ganrif. Am gyfnod defnyddid olwyn dŵr y felin i gynhyrchu trydan (hyd 1961).
- Yr eglwys
Codwyd yr eglwys bresennol, Eglwys Sant Ioan, yn 1861 ar safle'r hen eglwys. Ynddi cedwir tair cofeb o'r hen eglwys, o Rys Fawr ap Maredudd o Fryn Gwyn, a ddygodd faner Harri Tudur ar Faes Bosworth, ei wraig Lowri, a'u trydydd fab Robert, a fu'n gaplan i'r Cardinal Thomas Wolsey.[2]
Ym mynwent yr eglwys mae bedd Sion Dafydd Berson neu Sion Dafydd Glocsiwr oedd yn berson yn hen gapel yr Owen ym Mhentrefoelas; ef oedd athro Twm o'r Nant ac ef a'i dysgodd i ddarllen gyntaf. Ar ei garreg fedd mae englyn gan Twm o'r Nant i'w hen athro: "Galar, i'r ddaear ddu - aeth athraw..."
Cyfrifiad 2011 [golygu]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
Enwogion [golygu]
- Rhys Fawr ap Maredudd - marchog canoloesol.
- Wiliam Cynwal - bardd o'r 16eg ganrif, enwog am ei ymryson barddol ag Edmwnd Prys.
- T. Osborne Roberts (ganwyd 12 Chwefror, 1879), bardd. Cyfansoddodd "Pistyll y Llan", "Y Nefoedd" a thôn "Pennant". Priododd Leila Megane.
Gweler hefyd [golygu]
- Llyn Conwy - tarddle Afon Conwy
- Y Migneint - corsdir eang sy'n lle da am adar
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ W. Ogwen Williams, 'A note on the history of Ysbyty Ifan', Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, cyf. 15 (1954).
- ↑ W. Ogwen Williams, op. cit..
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Abergele · Bae Cinmel · Bae Colwyn · Bae Penrhyn · Betws-y-Coed · Betws yn Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Conwy · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Cyffordd Llandudno · Dawn · Deganwy · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwysbach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Gwytherin · Gyffin · Hen Golwyn · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llandudno · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llaneilian-yn-Rhos · Llanfairfechan · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llanrwst · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Penmaenmawr · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarn-y-fedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd y Foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Tywyn · Ysbyty Ifan