Llanfihangel Glyn Myfyr

Oddi ar Wicipedia
Llanfihangel Glyn Myfyr
Y bont ar Afon Alwen yn Llanfihangel Glyn Myfyr
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth189 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2,351.22 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.031°N 3.506°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000125 Edit this on Wikidata
Cod OSSH991492 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auDarren Millar (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Jones (Ceidwadwr)
Map

Pentref bychan a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llanfihangel Glyn Myfyr.[1][2] Roedd yn hanesyddol yn rhan o'r hen Sir Ddinbych. Saif yng nghornel dde-ddwyreiniol eithaf y sir yn ardal wledig Uwch Aled, tua 2 filltir i'r gogledd-ddwyrain o Gerrigydrudion ar yr hen lôn i Ruthun. Mae Afon Alwen, sydd â'i tharddle yn Llyn Alwen tua 4 millir i'r gogledd-orllewin, yn llifo heibio i'r pentref ar ei ffordd i ymuno ag Afon Dyfrdwy. I'r de o'r pentref ceir bryn isel Mwdwl-eithin.

Ymwelodd William Wordsworth â’r pentref ym 1824 i aros gyda ffrind, Robert Jones, yn y persondy, ac ysgrifennodd y gerdd Vale of Meditation am y pentref.[3]

Afon Alwen ger yr eglwys

Enwogion[golygu | golygu cod]

  • Mae'n bosibl fod y bardd a brawd crefyddol Madog ap Gwallter (fl. ail hanner y 13g?) yn frodor o Lanfihangel Glyn Myfyr.
  • Yma y ganed yr hynafiaethydd Owen Jones (Owain Myfyr) (1741-1814), a gymerodd ei enw barddol o'r pentref.

Ffliw adar[golygu | golygu cod]

Ar ddydd Iau, 24 Mai 2007, cadarnheuwyd gan lefarydd ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru fod yr achos cyntaf o ffliw adar yng Nghymru wedi ei ddarganfod ar fferm yn Llanfihangel Glyn Myfyr. Rhoddwyd cordon 1 cilomedr o gwmpas y fferm a gofynnwyd i ffermwyr eraill fod yn wyliadwrus. Nid oedd y math mwyaf peryglus o ffliw adar, meddai'r llefarydd. Rhai wythnosau'n ddiweddarach datganwyd fod yr argyfwng drosodd.[4]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanfihangel Glyn Myfyr (pob oed) (189)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfihangel Glyn Myfyr) (128)
  
69.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfihangel Glyn Myfyr) (137)
  
72.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanfihangel Glyn Myfyr) (17)
  
21.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Eglwys Sant Mihangel[golygu | golygu cod]

Eglwys fechan o’r 13g yw hon, a saif ar lan Afon Alwen, mewn ardal sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth i lenorion ers canrifoedd. Yma y symudwyd bedd Owain Myfyr ym 1951, yn ôl i fro ei febyd.

Oriel[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 20 Tachwedd 2021
  3. "Gwefan hiraethog.org.uk". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-09-21. Cyrchwyd 2018-12-09.
  4.  Ffliw adar ar fferm yn y gogledd. BBC Cymru'r Byd. BBC (24 Mai, 2007). Adalwyd ar 3 Gorffennaf, 2007.
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.